O fis Medi 2021 ymlaen, cynigir chwistrell ffliw trwynol i bob plentyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae ffliw yn cael ei achosi gan firysau sy'n lledaenu'n hawdd pan fydd pobl yn pesychu neu'n tisian. Mae'n ddifrifol iawn.
Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae plant yn dal ac yn lledaenu'r ffliw yn haws. Mae plant mewn mwy o berygl o niwed difrifol. Gall afiechydon difrifol gynnwys broncitis a niwmonia (heintiau'r ysgyfaint) a heintiau clust. Mae rhai plant yn mynd mor sâl nes bod angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Mae'n bwysig iawn i blant gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae brechlynnau ffliw yn gyflym, yn ddiogel iawn a gallent amddiffyn eich plentyn rhag wythnosau o salwch difrifol.
Caiff y brechiad ffliw chwistrell trwynol (Fluenz) ei ddarparu mewn ysgolion bob blwyddyn o fis Medi i fis Rhagfyr ac fe'i cynigir i bob plentyn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11.
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrell trwynol gan mai dyma'r brechlyn ffliw gorau a argymhellir ar eu cyfer. Mae'n niwl mân sy'n cael ei chwistrellu i fyny'r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed ymlaen. Mae'n ddiboen ac yn ddiogel, ac nid yw plant a phobl ifanc fel arfer yn ofidus ar ôl cael brechlyn ffliw chwistrell trwynol.
Mae gan y brechlyn ffliw chwistrell trwynol olion o gelatin mochyn (porc) wedi'i buro'n fawr a ddefnyddir hefyd mewn llawer o feddyginiaethau eraill. Mae brechlyn ffliw chwistrelladwy heb gelatin ar gael, cysylltwch â thîm nyrsio'r ysgol i drafod ar 01639 862601 neu e-bostiwch BIPBA.NyrsioYsgol@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.