Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau dal i fyny cymunedol

Dau chwistrell ar fwrdd wrth ymyl tri firws COVID glas.

Os yw eich plentyn wedi methu’r brechlyn ffliw yn yr ysgol neu os yw eich plentyn yn cael ei addysgu gartref, gallwch archebu lle yn un o’n clinigau dal i fyny cymunedol.

Bydd y clinigau cyntaf yn rhedeg yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Bydd dyddiadau a lleoliadau yn y dyfodol yn cael eu hychwanegu’n fuan.

Cynhelir clinigau dal i fyny hanner tymor mis Hydref ar y dyddiadau a'r lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 26ain Hydref - The 104, 98 Rhodfa Broughton, Blaenymaes, Swansea, SA5 5LN.
  • Dydd Mercher 28ain Hydref - Ysbyty Gorseinon - Ystafell Ddydd, Heol Brynawel, Gorseinon, Abertawe, SA4 4UU.
  • Dydd Gwener 30ain Hydref - Canolfan Adnoddau Port Talbot (wrth ymyl Morrisons) - Ystafell 304, Moor Road, Port Talbot, SA12 7BJ.

Bydd pob clinig rhwng 9:00yb a 4:00yp.

Os hoffech chi archebu apwyntiad i'ch plentyn gael y brechlyn ffliw a fethwyd, dilynwch y ddolen hon i'n ffurflen archebu ar-lein.

Fel arall, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu i wneud apwyntiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ysgol eich plentyn neu dîm nyrsio'r ysgol ar BIPBA.NyrsioYsgol@wales.nhs.uk – 01639 862801.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.