Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr brechu 3ydd Mawrth 2022

Yr wythnos hon mae gennym ddau ddarn pwysig o newyddion am y rhaglen.

Yn gyntaf, gall rhieni a gofalwyr pob plentyn pump i 11 oed sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn ardal Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot nawr ofyn am frechiad Covid ar gyfer eu plentyn trwy lenwi ffurflen ar-lein. Mae'r holl fanylion a'r ddolen i'r ffurflen isod yn yr adran 'newyddion diweddaraf'.

Byddwn hefyd yn darparu pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn, felly bydd hwnnw’n ail hwb, i pobl dros 75 oed, oedolion hŷn mewn cartrefi gofal a pawb sy’n 12 oed a hŷn sy’n cael eu dosbarthu fel rhai â gwrthimiwnedd. Mae hyn yn cael ei wneud fel rhagofal oherwydd bydd y grwpiau bregus hyn wedi cael eu hatgyfnerthiad cyntaf fis Medi neu fis Hydref diwethaf, felly bydd ganddynt y bwlch hiraf ers cael eu brechu. Byddwn yn eich diweddaru ar fanylion y cyflwyniad hwn yn fuan.

Daw’r ddau symudiad hyn ar ôl i Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dderbyn y canllawiau diweddaraf gan y corff annibynnol sy’n cynghori llywodraethau’r DU, y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Wrth edrych ymlaen mae'n debygol y bydd yna atgyfnerthiadau Covid trwy'r hydref i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Nid oes gennym unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd ond, fel bob amser, byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y caiff y cynllun ei gadarnhau.

 

Gan ein bod bellach mewn cyfnod llai brys o'r rhaglen, rydym yn newid cyhoeddi'r cylchlythyr hwn i sail fel a phryd. Mae hyn yn golygu y byddwn ond yn anfon un allan os oes gennym ni rywbeth pwysig iawn y dylech chi wybod amdano.

 

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn y 'newyddion diweddaraf' isod.

 

Y newyddion diweddaraf

 

Brechu plant rhwng pump ac 11 oed

Gallwch nawr ofyn am apwyntiad brechu Covid-19 ar gyfer eich plentyn os yw rhwng pump ac 11 oed.

Yn dilyn argymhelliad diweddar y JCVI y dylid cynnig dau ddos o’r brechlyn Pfizer i bob plentyn rhwng pump ac 11 oed, gall rhieni a gwarcheidwaid gofrestru ar-lein i gael apwyntiad ar gyfer eu plant.

Gallwch lenwi ffurflen i ofyn am frechiad Covid-19 ar gyfer hyd at bedwar o blant yn eich cartref yn y grŵp oedran hwn. Os oes gennych chi fwy na phedwar o blant rhwng pump ac 11 oed yn eich cartref, gallwch chi lenwi'r ffurflen eto.

Cwblhewch y ffurflen dim ond ar ran plentyn rhwng pump ac 11 oed y mae gennych gyfrifoldeb rhiant drosto, ac sydd wedi'i gofrestru gyda meddyg teulu yn ardaloedd Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot.

Dilynwch y ddolen hon i ofyn am apwyntiad ar gyfer eich plentyn rhwng pump ac 11 oed.

Rydym yn rhoi trefniadau ar waith ar hyn o bryd fel y gallwn ddechrau cynnig apwyntiadau yn yr wythnosau nesaf.

Cysylltir â chi gyda’r cynnig o apwyntiad unwaith y bydd y trefniadau hyn yn eu lle.

Ar gyfer y rhan fwyaf o blant, dylai'r bwlch rhwng pob dos fod o leiaf 12 wythnos.

Fodd bynnag, mae brechiadau eisoes yn eu lle ar gyfer plant rhwng pump ac 11 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy'n dod i gysylltiad â chartrefi pobl sydd â gwrthimiwnedd. Y bwlch a argymhellir rhwng dosau ar gyfer plant yn y grwpiau hyn yw o leiaf wyth wythnos.

Mae’r JCVI wedi ystyried ei benderfyniad yn ofalus ac wedi argymell bod brechiad Covid-19 yn cael ei gynnig i’r grŵp oedran hwn. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen datganiad diweddar y JCVI yn llawn.

 

Nid yw byth yn rhy hwyr

Mae brechlyn Covid ar gael i bawb sydd eisiau un, felly p’un a ydych chi’n colli’ch pigiad atgyfnerthu neu heb gael eich brechlyn cyntaf eto, mae sesiwn isod at eich dant yn un o’n canolfannau neu mewn fferyllfa gymunedol.

Gallwch alw heibio neu archebu ar-lein.

Ewch i'r ffurflen hon i drefnu apwyntiad brechlyn Covid ar-lein.

 

Lleoliadau brechu yn Abertawe

Canolfan Brechu Torfol y Bae, ger Amazon, SA1 8QB (Sylwer na fydd y ganolfan bellach ar agor bob dydd o ddydd Llun, Mawrth 7fed a bydd oriau agor yn newid. Manylion isod.)

Brechiadau galw heibio sydd ar gael:

  • 9am i 8pm o ddydd Llun, Chwefror 28ain i ddydd Gwener, Mawrth 4ydd
  • 10am i 6pm ar ddydd Sadwrn, Mawrth 5ed a dydd Sul, Mawrth 6ed
  • 10am tan 6pm o ddydd Mercher, Mawrth 9fed i ddydd Sul, Mawrth 13eg
  • 10am tan 6pm o ddydd Mercher, Mawrth 16eg i ddydd Sul, Mawrth 20fed
  • 9:30am i 6:30pm o ddydd Mercher, Mawrth 23ain i ddydd Gwener, Mawrth 25ain
  • 10am i 6pm ar ddydd Sadwrn, Mawrth 26ain a dydd Sul Mawrth 27ain
  • 9:30am i 6:30pm ar Ddydd Mercher, Mawrth 30ain
  • 10am i 6pm o ddydd Iau, Mawrth 31ain i ddydd Sadwrn, Ebrill 2il

 

Cynhwysydd (canolfan frechu leol) y tu allan i Neuadd y Ddinas Abertawe, SA1 4PE (Sylwch na fydd y ganolfan ar agor bob dydd o ddydd Llun, Mawrth 7fed.)

Galwch heibio rhwng 10am a 6pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun, Chwefror 28ain i ddydd Gwener, Mawrth 4ydd - i gyd rhwng 9am a 4pm
  • Dydd Llun, Mawrth 7fed, dydd Mercher, Mawrth 9fed a dydd Gwener, Mawrth 11eg
  • Dydd Llun, Mawrth 14eg, dydd Mercher, Mawrth 16eg a dydd Gwener, Mawrth 18fed
  • Dydd Llun, Mawrth 21ain, dydd Mercher, Mawrth 23ain a dydd Gwener, Mawrth 25ain
  • Dydd Llun, Mawrth 28ain, dydd Mercher, Mawrth 30ain a dydd Gwener, Ebrill 1af

 

Cynhwysydd (canolfan frechu leol) y tu allan i Ganolfan Hamdden Pontardawe, SA8 4EG

Galwch heibio rhwng 10am a 6pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth, Mawrth 8fed a dydd Mawrth, Mawrth 15fed
  • Dydd Mawrth, Mawrth 22ain a dydd Mawrth, Mawrth 29ain

 

Lleoliadau brechu yng Nghastell-nedd Port Talbot

Cynhwysydd (canolfan frechu leol) ym maes parcio archfarchnad Morrisons, Parc Diwydiannol Baglan, Heol Christchurch, Port Talbot, SA12 7DA.

Galwch heibio rhwng 10am a 6pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun. Chwefror 28ain i ddydd Gwener, Mawrth 4ydd - i gyd rhwng 9am a 4pm
  • Dydd Llun, Mawrth 7fed i ddydd Gwener, Mawrth 11eg
  • Dydd Llun, Mawrth 14eg i ddydd Gwener, Mawrth 18fed
  • Dydd Iau, Mawrth 24ain a dydd Sadwrn, Mawrth 26ain
  • Dydd Iau, Mawrth 31ain a dydd Sadwrn, Ebrill 2il

 

Mae’r clinig dros dro yn Hyb Cymunedol Croeserw bellach wedi cau.

 

Fferyllfeydd cymunedol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

1af, 2il neu ddos atgyfnerthu ar gael

Dim angen apwyntiad. (Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn cael gwahoddiad i gael eu brechu yn eu fferyllfa leol.)

18 oed a throsodd

Croeso i menywod beichiog

 

Fferyllfeydd cymunedol yn cynnig brechiad o ddydd Llun, Chwefror 28ain

 

Abertawe:

Dinas

Ffynnon - Pentref Trefol, Uned 4, Pentref Trefol, 215 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1NW. Dydd Llun a dydd Mercher, 9.30am tan 5pm.

 

Clas

Ffynnon - Y Clâs, 94 Rhodfa Rheidol, Y Clâs, Abertawe, SA6 7JS. Dydd Llun a dydd Mercher 9.30am tan 5pm.

 

Gorseinon

Welchem Fferyllfa Ty'r Felin - Heol Cecil, Gorseinon, Abertawe, SA4 4BY. Dydd Mawrth yn unig, 9am i 1pm a 2pm i 6pm.

 

Mayhill

Fferyllfa Welchem Mountain View - 53 Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD. Dydd Llun yn unig, 9am i 1pm a 2pm i 6pm.

 

Mwmbwls

Fferyllfa Newbury, 35-37 Heol Newton, Y Mwmbwls, Abertawe, SA3 4BD, dydd Iau a dydd Gwener, 9.30am i 5pm.

Fferyllfa Castell Welchem - 44 Heol y Frenhines, Y Mwmbwls, Abertawe, SA3 4AN. Dydd Iau yn unig, 9am i 1pm a 2pm i 6pm.

 

Penclawdd

Penclawdd M Rees, Sea View, Penclawdd, Abertawe, SA4 3YF. Dydd Mercher a dydd Gwener, 9am i 1pm a 2pm i 6pm.

 

West Cross

Well – West Cross, 8 Heol Alderwood, West Cross, Abertawe, SA3 5JD. Dydd Mawrth a dydd Mercher, 9.30am tan 5pm.

 

Castell-nedd Port Talbot:

 

Glynnedd

Fferyllfa Cwm Nedd, Cwm Nedd, Heol y Gadwyn, Glyn-nedd, Castell-nedd, SA11 5HP. Dydd Llun a dydd Iau, 9am i 5pm.

 

Castellnedd

Well - Castell-nedd, 130 London Road, Castell-nedd, SA11 1HF. Dydd Llun a dydd Mercher, 9.30am tan 5pm.

 

Sgiwen

Well - Sgiwen, 37 Heol Newydd, Sgiwen, Castell-nedd, SA10 6UT. Dydd Llun a dydd Mercher, 9.30am tan 5pm.

 

 

Ffigurau diweddaraf y brechlyn Covid

 

Sylwch: Mae'r ffigurau'n gywir o 3.30pm ddydd Iau, Mawrth 3ydd. Mae’r ffigurau hyn ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid Cymru gyfan.

 

dos 1af : 305,309

2il dos: 286,789

3ydd dos (ar gyfer y pobl gyda gwrthimiwnedd): 7,348

Dos atgyfnerthu: 224,182

Cyfanswm rhedeg (1, 2, 3 a dosau atgyfnerthu): 823,628

Dyna i gyd am yr wythnos hon. Diolch yn fawr am ddarllen.

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.