Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), sydd wedi cynghori y dylid cynnig brechiad COVID-19 hydref/gaeaf i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn 2025.
Fe'i cynigir fel rhagofal fel bod y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal y coronafeirws yn gallu cynnal lefel uchel o imiwnedd.
I bwy rydyn ni'n cynnig y brechlyn?
Pryd fydda i'n cael brechlyn?
Bydd rhaglen hydref/gaeaf Covid-19 yn rhedeg o ddydd Mercher 1af Hydref tan ddiwedd mis Rhagfyr 2026.
Sut a phryd y byddaf yn clywed?
Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael llythyr gan y bwrdd iechyd gydag apwyntiad mewn fferyllfa gymunedol neu'ch meddygfa. Os nad yw'ch meddygfa gofrestredig yn cynnig y brechiad COVID y tymor hwn, yna byddwch yn cael eich bwcio mewn apwyntiad mewn fferyllfa gymunedol.
Mae'r apwyntiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer brechiad atgyfnerthu hydref/gaeaf 2026 yn erbyn Covid-19. Fodd bynnag, bydd unigolion cymwys yn cael cynnig y brechlyn RSV hefyd. Dilynwch y ddolen hon i'n tudalennau gwe am RSV i gael rhagor o wybodaeth, ac i weld a ydych yn gymwys.
Efallai y byddwch yn clywed gennym tua dechrau mis Hydref.
Ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn clywed gennym ar unwaith, rhoddir apwyntiadau wrth i ni weithio drwy'r grwpiau cymhwysedd. Byddwn yn cynnig yr hwb i'r Hydref tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Nid oes angen cysylltu â'ch meddygfa na'r bwrdd iechyd. Os ydych chi'n gymwys, anfonir apwyntiad atoch.
Bydd y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal neu sy'n gaeth i'r tŷ yn cael eu brechu naill ai gan eu practis meddyg teulu, fferyllfa gymunedol leol neu ein tîm imiwneiddio.
Sut alla i ganslo neu newid fy apwyntiad?
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad, cyfeiriwch at eich llythyr gwahoddiad am fanylion ynghylch sut y gallwch aildrefnu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â 01792 200492. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai ein llinellau ffôn fod yn brysur ar adegau, ac yn ymddiheuro am hyn ymlaen llaw.
Bydd rhagor o wybodaeth am raglen hybu Covid-19 hydref/gaeaf 2026 yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon pan fydd ar gael.
Canllaw i bobl â system imiwnedd wan iawn a'r brechiad COVID-19 Gwanwyn/Haf.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.