Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu ar gyfer lleoli Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt Oedolion yn y dyfodol

Daeth yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn i ben ar 25 Mawrth 2022.

Os hoffech ddarllen papurau’r bwrdd lle cafodd yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn ei ystyried yn y bwrdd ym mis Ebrill 2022, dilynwch y ddolen hon. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae'r dudalen hon ar gael ar hyn o bryd.


Ymgysylltu â’r Cyhoedd - o 31 Ionawr 2022 i 25 Mawrth 2022

Ein cynigion ar gyfer lleoli Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt Oedolion yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Am beth mae'r ymgysylltiad hwn a phwy ddylai ei ddarllen?

Gwnaethom gytuno i ddatblygu un uned asesu iechyd meddwl oedolion newydd yn 2014. Rydym am glywed eich barn am y lleoliadau rydym wedi edrych arnynt fel safleoedd posibl ar gyfer ein huned asesu iechyd meddwl newydd ar gyfer oedolion. Adolygodd grŵp aml-asiantaeth, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, yr opsiynau ar gyfer y lleoliadau yn erbyn set o feini prawf y cytunwyd arnynt, er mwyn llywio ein hargymhelliad ar gyfer y safle yn y dyfodol. Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am yr argymhelliad hwn.

Yn y ddogfen hon, rydym yn amlinellu'r ystod o wasanaethau rydym yn bwriadu eu cynnwys yn yr uned newydd hon er mwyn i chi allu rhoi eich adborth.

A ydych chi wedi cynnig newidiadau i welyau asesu acíwt iechyd meddwl oedolion o'r blaen?

Ydyn. Yn 2013-14, cynhaliodd cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BIPABM) ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar drefniadaeth a lleoliad ei Gyfleusterau Asesu Acíwt ar gyfer Iechyd Meddwl Oedolion. Ym mis Mawrth 2014, ystyriodd Bwrdd Iechyd PABM ganlyniad yr ymgynghoriad hwn a daeth i'r casgliad y dylid adeiladu un uned asesu iechyd meddwl acíwt ar gyfer poblogaeth Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, a oedd yn cael ei gwasanaethu gan PABM, gyda chefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol a brys. Cytunodd y Bwrdd ymhellach mai Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ddylai fod y safle ar gyfer yr uned hon, gan ei fod yn safle ysbyty acíwt (gan adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymruar y pryd).  Roedd hefyd yn ganolog yn ddaearyddol ar gyfer yr ardaloedd a wasanaethwyd ac roedd lle ar y safle ar gyfer yr adeilad newydd hwn. Yn dilyn hynny, cytunodd Cyngor Iechyd Cymunedol PABM ar y pryd, mewn egwyddor, i gefnogi canoli'r gwasanaethau yn amodol ar ddatblygu a gweithredu llwybrau gofal i gefnogi hyn cyn i'r uned newydd agor.

Oherwydd y newidiadau i ffin y Bwrdd Iechyd, mae angen ailystyried yr opsiynau posibl ar gyfer y safle, gan nad yw safle Ysbyty Castell-nedd Port Talbot mwyach yn safle canolog ar gyfer poblogaeth Bae Abertawe, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru a oedd yn argymell cydleoli ag ysbyty acíwt wedi newid. Felly, ni fwriwyd ymlaen â'r adeilad newydd a oedd wedi’i gynllunio, ac roedd angen gwaith pellach i ailystyried y lleoliad gorau ar gyfer yr uned hon ar gyfer ardal Bae Abertawe. Nawr mae angen i ni gadarnhau safle'r uned newydd yn y dyfodol trwy'r ymgysylltiad hwn fel y gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi'r cyllid cyfalaf gofynnol a chychwyn y cynllunio manwl ar gyfer yr uned gyda'n staff, ein partneriaid, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Fel rhan o’n hymateb i’r pandemig, rydym wedi datblygu un gwasanaeth integredig, wedi dynodi wardiau penodol ar gyfer derbyniadau a thriniaeth ac wedi adeiladu ar y gwaith y mae ein timau Argyfwng/ Triniaeth yn y Cartref yn ei wneud. Rydym hefyd yn datblygu Hyb Asesu Iechyd Meddwl ar gyfer pob oedran gan ddefnyddio platfform 111. Mae'r datblygiadau hyn yn cefnogi'r gwaith o baratoi'r llwybr cyn i'r uned newydd agor.

Crynodeb o’n cynigion

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut y bydd gwasanaethau i oedolion ag anghenion iechyd meddwl acíwt yn cael eu darparu yn y dyfodol ac yn esbonio'r safleoedd posibl a nodwyd ar gyfer yr uned hon, ac felly leoliad arfaethedig y cyfleuster hwn yn Ysbyty Cefn Coed.

Pe byddai'r uned newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Cefn Coed, fel y cynigir yn y ddogfen hon, byddai mynediad i’r arbenigedd sydd ar y safle ac i gyfleusterau cyfredol yr unedau presennol a'r gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys wardiau cleifion mewnol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn a wardiau Adsefydlu Iechyd Meddwl, sy'n caniatáu i'r Uned Iechyd Meddwl Oedolion newydd fod yn rhan integredig o ystod o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer poblogaeth Bae Abertawe mewn unedau newydd a fyddai’n addas i'r diben ac ar un safle.

Mae nifer o fanteision i gynnig gwasanaethau iechyd meddwl ar un safle, gan gynnwys llai o gludiant ac aflonyddwch i gleifion sy'n mynd yn salach ac sydd angen y gwasanaeth PICU, yn ogystal ag i gleifion sy'n gwella ac yn barod i ddefnyddio gwasanaethau adsefydlu.

Mae lleoli’r gwasanaethau iechyd meddwl gyda’i gilydd yn darparu buddion ychwanegol o ran arbedion maint, yn enwedig o ran costau fel rotâu meddygol, staff trawsgyflenwi rhwng wardiau a chostau is ar gyfer gwasanaethau cymorth.

Yn ogystal, mae'n lleoliad sy'n eiddo i’r Bwrdd Iechyd sy'n golygu y byddai'r caniatâd cynllunio angenrheidiol yn gyflymach ac yn symlach.

Cytunwyd mai cyfeiriad strategol y Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaethau lleol lle bo hynny'n bosibl a gwasanaethau arbenigol lle bo angen, ac mae'r dull o ddatblygu un uned iechyd meddwl i oedolion yn cyd-fynd â'r cyfeiriad rydym wedi cytuno arno ar gyfer y dyfodol.  Rhoddodd ymarfer ymgysylltu cyhoeddus y Bwrdd Iechyd a gynhaliwyd yn ystod haf 2021, sef Newid ar gyfer y Dyfodol, fandad clir i ddatblygiad strategol y Bwrdd Iechyd o’n safleoedd ysbytai acíwt. Nid yw cydleoli gwasanaethau iechyd meddwl ar safleoedd ysbytai acíwt yn rhan o greu’r canolfannau rhagoriaeth hyn ar gyfer iechyd corfforol.  Mae’r lleoliad arfaethedig yn cefnogi canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus Newid ar gyfer y Dyfodol a Chynllun Gwasanaethau Clinigol y Bwrdd Iechyd.

Cynhelir ymgysylltiad cyhoeddus ar leoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt Oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y dyfodol rhwng 31 Ionawr 2022 a 25 Mawrth 2022.

Gellir gweld y cynigion llawn ar gyfer lleoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt i Oedolion yn y dyfodol ar ffurf ddogfen Word trwy'r ddolen hon.

Mae dogfen hawdd ei darllen yn cynnwys ein cynigion ar gyfer lleoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt i Oedolion yn y dyfodol ar gael trwy'r ddolen hon mewn fformat PDF.

Mae fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r cynigion ar gyfer lleoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt i Oedolion yn y dyfodol ar gael ar YouTube drwy'r ddolen hon.

Gellir cyrchu ffurflen ymateb ar gyfer lleoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt i Oedolion yn y dyfodol trwy'r ddolen hon ar ffurf Word.

Gellir cyrchu ffurflen ymateb hawdd ei darllen ar gyfer lleoliad Gwelyau Asesu Iechyd Meddwl Acíwt i Oedolion yn y dyfodol trwy'r ddolen hon ar ffurf ddogfen Word.

Mae'r dogfennau hyn hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Cymraeg a Saesneg), disg sain (Cymraeg a Saesneg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, Hawdd ei Ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain drwy ffonio 01639 683355 neu drwy anfon e-bost at SBU.engagement@wales.nhs.uk.

Isod fe welwch fanylion y gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltu hwn.

Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy:

Llenwi'r ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma a'i dychwelyd atom drwy'r cyfeiriad neu'r cyfeiriad e-bost isod.

Ysgrifennu atom:

Prif Weithredwr, BIP Bae Abertawe, One Talbot Gateway, Baglan, SA12 7BR

E-bostio ni: SBU.engagement@wales.nhs.uk

Ffonio ni a gadael neges: (01639) 683355

Dolen i'n tudalen Facebook yma

Dolen i'n cyfrif Twitter yma

Fel arall, gallwch roi eich barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy ysgrifennu ato yn:

Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell Nedd, SA11 3SU

Neu e-bostiwch nhw: swanseabay@waleschc.org.uk

Diolch am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.