Neidio i'r prif gynnwy

Atal cenhedlu brys

Croes wyn ar gefndir gwyrdd

Mae eich fferyllfa leol yn gallu darparu mynediad cyfrinachol i wasanaethau atal cenhedlu'r GIG, heb yr angen am apwyntiad. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys darparu atal cenhedlu brys, atal cenhedlu pontio a chyngor iechyd rhywiol. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael am ddim os ystyrir bod y cyflenwad yn briodol yn dilyn ymgynghoriad â fferyllydd achrededig.

Mae pontio atal cenhedlu yn caniatáu i fferyllydd achrededig gynnig cyflenwad tri mis o bilsen atal cenhedlu, i bontio'r bwlch rhwng atal cenhedlu brys a chael mynediad at atal cenhedlu tymor hwy. Mae hyn yn helpu i ganiatáu i gleifion ymchwilio a cheisio cyngor ar eu hopsiynau a'r dewisiadau ar gyfer atal cenhedlu tymor hir.

Dilynwch y ddolen hon i wefan GIG 111 Cymru lle gallwch ddod o hyd i restr o fferyllfeydd sy'n cynnig y gwasanaeth hwn drwy ddewis 'Darparu dulliau atal cenhedlu brys (EC)' yn y ddewislen hidlo.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.