Mae oddeutu 1 plentyn a pherson ifanc o bob 8 yn profi problemau ymddygiad neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer, bydd y rhain yn datrys dros amser, tra bydd eraill angen cefnogaeth broffesiynol.
Gall fod yn anodd iawn fel rhiant i wybod a oes rhywbeth yn peri gofid i'ch plentyn, neu a yw hyn efallai'n swing hwyliau neu'n arwydd o newid hormonaidd / datblygu.
Y peth pwysicaf i'w gofio yw eich bod chi'n adnabod eich plentyn orau. Os ydych chi'n poeni, meddyliwch a fu newid sylweddol yn eu hymddygiad, mae hynny wedi para am gyfnod estynedig o amser. Gallai hyn fod gartref, ysgol neu goleg; gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain; neu mewn perthynas â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn eu bywyd, gan gynnwys newidiadau a achosir gan y pandemig.
Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.