Ni yw'r GIG ym Mae Abertawe, yn darparu gwasanaethau GIG i bobl Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos a gwasanaethau iechyd arbenigol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru a thu hwnt. Ein nod yw cadw pobl yn iach, eu cefnogi i osgoi afiechyd a bod yno gyda gofal iechyd rhagorol pan fydd ei angen ar bobl. Rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i gleifion a chymunedau ac yn llunio gwasanaethau o amgylch eu hanghenion a'u ffyrdd o fyw.
I wneud hyn mae gennym Gynllun Adfer a Chynaliadwyedd tair blynedd sy'n nodi sut y byddwn yn gweithredu'r blaenoriaethau yn ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Ffurfiodd y syniadau hyn sail ein hymgysylltiad Newid ar gyfer y Dyfodol lle cawsom gefnogaeth gadarnhaol iawn gan gleifion, y cyhoedd a staff, gan roi mandad inni ar gyfer newid a gwella yr ydym bellach yn ei gyflawni. Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys tair Canolfan Ragoriaeth, creu gwasanaeth iechyd sylfaenol, cymunedol a meddwl ffyniannus i ddarparu gofal yng nghartrefi pobl ac yn agosach atynt i'r rhai nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty; lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd; cynnal gwyliadwriaeth a chydnerthedd COVID; a chefnogi lles staff a chymunedau.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy bartneriaethau cryf, gyda'n staff, cymunedau, rhanddeiliaid lleol a byrddau iechyd cyfagos. Mae'r Cynllun Bob Dydd hwn yn rhoi trosolwg hawdd o'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.