Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwasanaethau Clinigol 2019-24

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno diweddariad Cynllun Gwasanaeth Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer 2019 – 2024; cynllun sy'n ganolog i'n huchelgais sefydliadol i ddarparu Iechyd Gwell a Gofal Gwell er mwyn galluogi Bywydau Gwell i bawb yn ein cymunedau.

Yn 2013, fe wnaethon ni ymgysylltu’n helaeth â channoedd o gleifion, staff a phartneriaid i ddatblygu Newid er Gwell; cynllun clinigol pum mlynedd cyntaf y Bwrdd Iechyd. O’r sylfaen hon yr ydym wedi ymgysylltu unwaith eto, i gytuno â chlinigwyr, staff a rhanddeiliaid ar ein huchelgeisiau cyffrous ar gyfer gwasanaethau clinigol dros y pum mlynedd nesaf.

Gwnaed hyn yng nghyd-destun Cymru Iachach; Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018), sy'n gosod gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol Cymru drwy'r nod pedwarplyg; gwella iechyd a lles y boblogaeth, profiad ac ansawdd gofal, lles, gallu ac ymgysylltiad staff a'r gwerth a gyflawnwn i'n cleifion drwy arfer gorau a dileu gwastraff. Drwy gydol y cynllun hwn rydym wedi blaenoriaethu gwella ansawdd, diogelwch a gwerth ein gwasanaethau i gleifion.

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno'r cynllun hwn sy'n disgrifio ein huchelgeisiau a'n camau gweithredu ar gyfer gweithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid i gyflawni'r nod pedwarplyg ar gyfer y bobl a wasanaethwn. Mae'n canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth; diwallu anghenion ein cleifion mor agos at eu cartrefi neu yn eu cartrefi; cefnogi hunanofal, darparu gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol integredig a chynyddu lles i'r eithaf.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol 2019-24 - Cymraeg, ar ffurf PDF.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol 2019-24 - Saesneg, ar ffurf PDF.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.