Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriad brys amheus

Ydych chi wedi cael eich atgyfeirio ar lwybr brys ar gyfer canser a amheuir?

Rydym yn deall y gall cael eich atgyfeirio gydag amheuaeth o ganser fod yn bryderus. Mae atgyfeiriad Brys ar gyfer Canser a Amheuir (USC) wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn derbyn y profion cywir a'r asesiad arbenigol cyn gynted â phosibl.

Nid yw atgyfeiriad USC yn golygu bod gennych ganser, a bydd llawer o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn derbyn diagnosis nad yw'n ganser.  

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl, y gefnogaeth sydd ar gael i chi, ac adnoddau i'ch helpu i aros yn wybodus, yn dawel eich meddwl ac yn iach yn ystod eich aros am brofion neu apwyntiadau pellach.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.