Mae seicolegwyr yng Nghanolfan Gwefus a Thaflod Hollt Cymru yn gweithio gyda phobl o bob oed - o deuluoedd a gofalwyr babanod a phlant ifainc iawn, i blant oedran ysgol, oedolion ifanc ac oedolion sydd wedi'u geni â hollt.
Mae'r gwasanaeth yno ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion sy'n cael eu heffeithio gan hollt, sy'n byw yn ne a chanolbarth Cymru. Mae gweld seicolegydd yn rhan safonol o'r gefnogaeth a gynigir gan y tîm hollt ac rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y clinigau holltau. Rydym felly yn hoffi cyfarfod â phob plentyn, rhiant ac oedolyn ar ryw adeg. Yn y clinigau hyn byddwn yn hapus iawn i siarad â chi am unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych ac os oes angen, gallwn drefnu i gwrdd â chi ar wahân er mwyn trafod pethau'n llawnach.
Mae gan y gwasanaeth seicoleg holltau dri phrif nod: