Neidio i'r prif gynnwy

Symptomau anadlol? Peidiwch ag ymweld â'n hysbytai os ydych yn sâl

Mae

Ar hyn o bryd rydym yn gweld cynnydd sydyn yn yr achosion o ffliw, Covid a nifer o heintiau anadlol firaol eraill ar draws ein hysbytai.

Bu naid fawr mewn ystod o heintiau anadlol bob dydd ar ein safleoedd dros y dyddiau diwethaf, gan fynd o 31 o achosion wedi'u cadarnhau ar 17 Rhagfyr i 66 o achosion erbyn 22 Rhagfyr.

Mae ein tîm rheoli heintiau wedi cadarnhau bod amrywiaeth o feirysau anadlol bellach yn debygol iawn o fod yn cylchredeg ar y rhan fwyaf os nad pob ward.

Gwyddom pa mor bwysig yw ymweld â pherthynas neu ffrind agos sydd yn yr ysbyty, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.

Ond gofynnwn os oes gennych unrhyw symptomau anadlol neu os ydych yn teimlo dan y tywydd i ohirio eich ymweliad nes eich bod yn teimlo'n well.

Os oes gennych chi symptomau anadlol, arhoswch adref, hyd yn oed os ydych chi'n profi'n negyddol am Covid. Er efallai nad oes gennych chi Covid, efallai bod gennych chi firws anadlol arall fel y ffliw y gallech chi ei drosglwyddo i glaf bregus neu aelod o staff, a'u gwneud yn wael iawn.

Delwedd o Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Keith Reid Rydym hefyd yn cymryd nifer o fesurau i ostwng cyfraddau heintiau, ac un allweddol yw ailgyflwyno gwisgo masgiau yn ein holl wardiau, ardaloedd clinigol a mannau cyhoeddus, fel coridorau a derbynfeydd. Cofiwch gadw at hyn bob amser, a chadwch eich trwyn a'ch ceg wedi'u gorchuddio'n llawn â mwgwd neu orchudd wyneb pan fyddwch yn yr ardaloedd hyn.

Dywedodd ein Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Dr Keith Reid (yn y llun): “Byddem yn gofyn i’r rhai sy’n ymweld â pherthnasau a ffrindiau yn yr ysbyty i beidio â mynychu ein hysbytai os oes ganddynt dwymyn, peswch neu snifflau er mwyn osgoi lledaenu salwch ymhlith cleifion.

“Er bod hwn yn ofyn anodd, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gyda’n gilydd, i leihau ffliw a Covid yn ein hysbytai.

“Mae cyfraddau COVID a ffliw yn codi eto yn ein cymunedau a byddant yn codi ymhellach wrth i bobl barhau i gymysgu dros y tymor gwyliau.

“Er bod nifer dda o grwpiau rish uwch wedi’u brechu yn sgil Covid yn dilyn ymgyrch atgyfnerthu’r hydref, mae nifer y rhai sy’n cael y brechlyn ffliw wedi bod yn is. Mae brechu yn parhau i fod ar gael i bobl gymwys trwy bractis cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol.”

Cofiwch hefyd olchi eich dwylo'n aml a defnyddio hylif diheintio dwylo cyn ac ar ôl ymweld â ward os byddwch yn dod i ymweld â pherthynas.

Os byddwch yn cael salwch anadlol, dilynwch fesurau syml sy’n helpu i leihau lledaeniad firysau, fel peswch neu disian i mewn i ffon eich penelin, nid eich dwylo, a chael gwared ar hancesi papur sydd wedi’u defnyddio yn y bin, yna golchwch eich dwylo neu defnyddiwch glanweithydd dwylo.

Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion am frechiadau Covid a ffliw.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.