Neidio i'r prif gynnwy

Mae staff gofal iechyd yn lansio Grŵp Gwyrdd Bae Abertawe newydd

Swansea Bay Green Group logo

Mae grŵp o staff gofal iechyd rheng flaen Bae Abertawe heddiw wedi lansio grŵp newydd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwneud y GIG yn y rhanbarth yn fwy ecogyfeillgar.

Mae Grŵp Gwyrdd Bae Abertawe yn sefydliad gwirfoddol newydd sy’n agored i holl staff y GIG sy’n gweithio yn rhanbarth Bae Abertawe, ac mae ei lansiad yn cyd-daro â Diwrnod Cenedlaethol Ailgylchu.

Mae'r grŵp eisoes yn gweithio ar nifer o brosiectau i wneud gofal iechyd yn wyrddach, gan gynnwys lleihau faint o wastraff a grëir yn ystod llawdriniaethau, rhagnodi anadlwyr sydd ag ôl troed nwyon tŷ gwydr is ac ymchwilio i opsiynau ar gyfer PPE diogel y gellir eu hailddefnyddio.

Dywedodd y Meddyg Teulu Richard Thomas, sy’n helpu i sefydlu’r grŵp: “Rydym i gyd yn gwybod bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac weithiau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau.

“Ond mae’r GIG yn arweinydd byd-eang gydag uchelgais i ddod yn wasanaeth iechyd sero net cyntaf y byd – a gallwn ni i gyd chwarae rhan mewn gweithio allan sut i wneud i hynny ddigwydd.”

Dywedodd Christine Haigh, meddyg iau sydd hefyd yn rhan o’r grŵp: “Rwy’n gyffrous am weithio gyda staff ar draws y bwrdd iechyd – o borthorion a ffisiotherapyddion i staff arlwyo a rheolwyr cyllid – i rannu syniadau a chydweithio i helpu ychydig i wneud y GIG yn wyrddach.

“Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan grwpiau tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru sydd eisoes yn gwneud prosiectau gwych i wneud ein systemau gofal iechyd yn well i bobl a’r blaned.”

Paneli solar  Yn y llun: Fferm solar Ysbyty Treforys.

Dywedodd Sian Harrop-Griffiths, cyfarwyddwr strategaeth: “Rydym yn croesawu lansiad Grŵp Gwyrdd Bae Abertawe heddiw, sy’n adlewyrchu angerdd a gwaith caled ein cydweithwyr rheng flaen.

"Rydym yn gobeithio y bydd eu mentrau'n helpu i nodi a datblygu ffyrdd newydd o wneud darpariaeth gofal iechyd yn rhanbarth Bae Abertawe yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan ategu prosiectau fel ein fferm solar arloesol."

Mae aelodaeth o Grŵp Gwyrdd Bae Abertawe am ddim ac mae croeso i bawb sy'n gweithio ym maes gofal iechyd ym Mae Abertawe ymuno. Gallwch ddarganfod mwy a chysylltu â'r grŵp yn SBU.GreenGroup@wales.nhs.uk neu ar Twitter @SBGreenGroup.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.