Neidio i'r prif gynnwy

A allaf ddal i gyrchu gweithgareddau a therapïau grŵp?

Rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio ein darpariaeth ysbyty dydd ar gyfer oedolion hŷn sy'n ymdopi â materion iechyd meddwl gan gynnwys dementia yn y cyfamser. Mae hyn oherwydd yr angen i reoli lledaeniad y feirws i'n cleifion bregus a allai hefyd fod yn ymdopi â materion iechyd corfforol sylfaenol. Fodd bynnag, mae ein staff ysbytai dydd yn ymdrechu i gynnal cyswllt ffôn gyda'n cleifion.

Mae darpariaeth therapi hefyd yn cael ei darparu dros y ffôn ac yn rhithwir gan gynnwys Attend Anywhere a Microsoft Teams.

Mae therapi seicolegol grŵp ar gyfer oedolion hŷn hefyd wedi cychwyn dros Microsoft Teams.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.