Neidio i'r prif gynnwy

Stopiwch yr haint rhag lledaenu

Mae

Am y dudalen hon

Mae lledaeniad heintiau a salwch yn digwydd ledled y byd ac nid yw'n wahanol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae'n hawdd trosglwyddo bacteria a feirysau sy'n achosi salwch fel y ffliw, norofeirws a choronafeirws (COVID-19) o berson i berson, neu weithiau ymlaen i wrthrychau.

Er bod rhai o'r germau hyn yn ddiniwed, gall eraill eich gwneud chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn ddifrifol wael.

Er mwyn eich helpu i gadw'n ddiogel rhag heintiau, rydyn ni wedi llunio rhywfaint o gyngor synnwyr cyffredin isod.

Beth alla i ei wneud i atal yr haint rhag lledaenu?

Efallai ei fod yn swnio'n amlwg ond mae golchi'ch dwylo yn un o'r pethau hawsaf y gallwch chi ei wneud i atal haint a salwch rhag lledaenu.

Mae golchi'ch dwylo â sebon a dŵr a'u sychu wedi hynny yn cael gwared â'r baw, y bacteria a'r feirysau a all ledaenu i bobl neu wrthrychau eraill.

Sut i olchi'ch dwylo'n iawn

Er mwyn golchi'ch dwylo'n iawn, dylech dreulio 20 eiliad yn eu rhwbio â sebon cyn i chi ei rinsio â dŵr glân. Mae hyn tua'r un faint o amser mae'n ei gymryd i ganu 'Pen-blwydd Hapus' ddwywaith.

Dilynwch y camau a restrir isod i gael y dull gorau o olchi'ch dwylo. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n golchi'ch arddyrnau hefyd wrth ddilyn y cyngor hwn:

A step by step guide to washing your hands, following NHS advice (as detailed in article).

  1. Gwlychwch eich dwylo gyda dŵr
  2. Defnyddiwch sebon
  3. Rhwbiwch gledrau'r dwylo yn erbyn ei gilydd
  4. Gorchuddiwch gefn eich llaw â chledr eich llaw arall
  5. Wrth wneud hyn, cyd-gloi'ch bysedd a golchwch rhyngddynt
  6. Gwnewch hyn eto â'ch dwylo y ffordd arall
  7. Clowch eich dwylo fel bod eich bysedd yn plygu i'ch cledrau a rhwbio yn ôl ac ymlaen
  8. Daliwch eich bawd mewn un llaw a trowch i lanhau - gwnewch hyn eto gyda'r bawd arall
  9. Rhwbiwch eich ewinedd a'ch bysedd mewn cylch yng nghledr eich llaw arall
  10. Rinsiwch eich dwylo a sychwch yn drylwyr
  11. Defnyddiwch tywel defnydd sengl i ddiffodd y tap

Mae'r fideo hon a gynhyrchwyd gan y GIG hefyd yn dangos y ffordd orau i olchi'ch dwylo. 

Cafodd y fideo hon ei chreu gan wefan genedlaethol y GIG felly nid yw ar gael yn Gymraeg.  

Mae fideo cân hefyd ar gael i helpu plant bach a phlant i ddysgu sut i olchi eu dwylo.

Pryd ddylwn i olchi fy nwylo?

Ddylech olchi'ch dwylo hyd yn oed pan na fyddant yn amlwg yn frwnt. Gallwch chi godi bacteria a feirysau o lefydd na fyddech chi hyd yn oed yn meddwl amdanyn nhw.

Gall pob un ohonom drosglwyddo bacteria a feirysau i - a'u casglu o - wrthrychau bob dydd fel switshis golau, trolïau a basgedi siopa, dolenni drysau, peiriannau chip and pin, remotes teledu a mwy.

Dylech olchi'ch dwylo bob amser:
  • Ar ôl defnyddio'r toiled
  • Ar ôl newid cewynnau
  • Ar ôl peswch, tisian neu chwythu'ch trwyn
  • Cyn ac ar ôl trin bwydydd amrwd
  • Ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill, neu lanhau ar eu hôl
A allaf ddefnyddio glanweithiwr dwylo yn lle?

Mae geliau alcohol a glanweithwyr dwylo yn bwysig hefyd ond nid ydyn nhw bob amser yn effeithiol yn erbyn rhai afiechydon, gan gynnwys norofeirws.

Os na allwch ddefnyddio sebon a dŵr, defnyddiwch lanweithiwr dwylo sydd ag o leiaf 60% alcohol ynddo.

Ond os ydych chi'n defnyddio glanweithiwr dwylo, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n golchi'ch dwylo'n rheolaidd hefyd.

Helpwch ni i atal heintiau yn ein hysbytai

Rydyn ni'n gwybod eich bod chi eisiau gweld eich anwyliaid a sicrhau eu bod nhw'n iawn tra maen nhw yn yr ysbyty ond os nad ydych chi'n teimlo'ch gorau, peidiwch ag ymweld â nhw.

Efallai eu bod bron yn ôl ar eu traed ac rydych chi'n meddwl bod gennych chi ddim ond sniffian neu fola tost braidd ond gallai fod yn nam fydd yn eu gwneud nhw neu glaf arall yn ddifrifol wael.

Arhoswch nes eich bod chi'n teimlo'n well ac ystyriwch ffonio neu alw fideo gyda'r person rydych chi am ymweld ag ef yn lle.

Os ydych mewn iechyd da ac yn ymweld â chlaf ysbyty, gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi'ch dwylo pan gyrhaeddwch a defnyddio'r glanweithyddion sydd ar gael wrth fynedfa pob ward.

Mae toiledau cyhoeddus gyda sinciau a sebon ar gael ichi eu defnyddio ger mynedfa Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Cymerwch eiliad i fynd i mewn a golchi'ch dwylo cyn mynd i'r man lle mae angen i chi fod.

Beth alla i ei wneud i atal pobl eraill rhag dal fy salwch?

Os oes gennych y ffliw, norofeirws neu unrhyw salwch heintus arall, arhoswch gartref a pheidiwch â mynychu'r gwaith na'r ysgol.

Ar gyfer llawer o afiechydon, gan gynnwys ffliw a bygiau stumog fel norofeirws, nid oes gwellhad penodol. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw aros gartref tra bydd yn rhedeg ei gwrs.

Os ydych chi'n peswch neu'n tisian, gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg â hances bapur a'i thaflu yn y bin. Golchwch eich dwylo yn syth wedi hynny.

Mae angen i chi hefyd lanhau a diheintio unrhyw arwynebau neu wrthrychau rydych chi'n eu cyffwrdd yn aml gartref neu yn y gwaith.


Mwy o wybodaeth:

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.