Ymweld - pam ei fod yn fwy na dim ond amseroedd ymweld

Mae ein Polisi Ymweld yn llawer mwy na dim ond amlinellu ein hamseroedd ymweld. Mae'n edrych ar ymweld mewn ffordd gyfannol, gan gydnabod ei fod yn gyfle i gefnogi lles ac anghenion clinigol cleifion ar draws ein hysbytai.

Rydym yn gwybod bod ymweld â chleifion o fudd enfawr i lesiant cleifion, ac mae ymweliadau gan berthnasau, gofalwyr a ffrindiau yn rhan bwysig o adferiad claf. Nid yn unig mae hyn oherwydd bod ymweld yn caniatáu i gleifion ailgysylltu â'u hanwyliaid, ond mae llawer o gefnogaeth ymarferol y gall ymwelwyr ei chynnig. Gallant annog cleifion i wisgo, codi a symud o gwmpas a bod mor symudol â phosibl.

Mae hyn yn allweddol i osgoi 'datgyflyru' lle mae rhywun sy'n ansymudol mewn gwely ysbyty am gyfnod rhy hir yn colli cryfder corfforol, yn datblygu cymhlethdodau ac mewn rhai achosion, yn y pen draw yn colli ei annibyniaeth. Gall ymwelwyr hefyd helpu cleifion gyda'u hanghenion hydradu a maeth, trwy eu helpu a'u hannog i fwyta ac yfed. Mae hyn hefyd yn bwysig i sicrhau bod cleifion yn cadw mor iach â phosibl, ac mae'n cefnogi staff hefyd.

Wrth ystyried oriau ymweld, gall fod yn heriol cael y cydbwysedd cywir i bawb. Dylai mynediad fod mor agored â phosibl, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod digon o amser i staff gynnal gofal clinigol, ac i gleifion orffwys.

Mae gan ein polisi amrywiaeth o opsiynau i chi gefnogi ymweliadau, os ydych chi'n aelod o staff, yn glaf neu'n ymwelydd. Mae gennym ni hefyd ystyriaethau arbennig ar gyfer plant, gofalwyr a chleifion a'r rhai sy'n derbyn gofal Dyddiau Olaf Bywyd.