Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau cleifion allanol rhithwir

Fe wnaethom droi at ffyrdd amgen o ddarparu apwyntiadau yn ystod y pandemig Covid, megis ymgynghoriadau fideo.

Bu'r rhain mor llwyddiannus fel ein bod yn parhau i'w defnyddio, ynghyd ag apwyntiadau ffôn, lle mae clinigwyr yn teimlo bod hynny'n briodol.

Dim ond pan fo gwir angen y byddwn yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb.

 

Apwyntiadau fideo - Mynychu Unrhyw Le

Rydym yn defnyddio system ddiogel Mynychu Unrhyw Le ar gyfer ymgynghoriadau fideo gyda chlinigydd. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw dyfais sy'n galluogi'r rhyngrwyd gyda chamera.

Ewch i wefan Mynychu Unrhyw Le am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, gan gynnwys cyngor ar gyfer cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymgynghoriad fideo.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.