Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i nawr ar restr aros am lawdriniaeth - beth nesaf?

Ar gyfer oedolion o dan yr arbenigeddau hyn: Llawfeddygaeth y Fron/ENT/Gyffredinol/Gynaecoleg/Asgwrn Cefn/Orthopedig/Wyneb a gên/Wroleg

Os ydych chi wedi cael eich apwyntiad cleifion allanol cyntaf - ac mae wedi cael ei gytuno bod angen llawdriniaeth arnoch chi - dyma rywfaint o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl nesaf.

Efallai y byddwch yn cael “holiadur sgrinio iechyd deallus” (iHSQ). Dyma set o gwestiynau am eich iechyd ac unrhyw gyflyrau sydd gennych. Gallai gyrraedd drwy neges destun, e-bost neu lythyr felly gwnewch yn siŵr bod gennym eich manylion cyswllt cywir. Er y gall fod yn debyg i holiadur cynharach y gallech fod wedi'i lenwi, mae'n un newydd ac mae'n bwysig eich bod yn ei gwblhau cyn gynted â phosibl ac mor gywir â phosibl.

Efallai y byddwch hefyd yn derbyn holiaduron pellach neu ailadroddus wrth i chi aros am eich llawdriniaeth – cwblhewch bob un ohonynt . Bydd eich ymatebion yn ein helpu i weithio gyda chi i olrhain a gwella eich iechyd tra byddwch yn aros a chynyddu eich siawns o ganlyniad llawfeddygol llwyddiannus. Nodyn: Os bydd eich cyflwr yn gwaethygu, neu os byddwch yn datblygu cyflwr newydd, ceisiwch gyngor trwy'r ffyrdd arferol (meddyg teulu, fferyllfa, adran damweiniau ac achosion brys) gan na fydd cwblhau'r holiadur hwn yn sbarduno asesiad meddygol cyflym.

Bydd y cwestiynau iHSQ hyn yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Mai 2026, gan ddechrau gydag Orthopedig.

Yn y cyfamser, mae llawer y gallwch barhau i'w wneud tra byddwch yn aros am eich llawdriniaeth. Ewch yma i ymweld â'n tudalen Paratoi ar gyfer Llawdriniaeth.

Ddim o dan un o'r arbenigeddau uchod?

Ar hyn o bryd, dim ond at gleifion sy'n oedolion sydd o dan yr wyth arbenigedd hyn y mae holiaduron iHSQ yn cael eu hanfon - gall hynny newid yn y dyfodol i gwmpasu arbenigeddau ychwanegol.

Os ydych chi wedi cael eich apwyntiad cleifion allanol cyntaf o dan arbenigedd gwahanol i'r rhai a restrir uchod - ac mae wedi'i gytuno bod angen llawdriniaeth arnoch chi - mae llawer y gallwch chi barhau i'w wneud tra byddwch chi'n aros am eich llawdriniaeth. Ewch yma i ymweld â'n tudalen Paratoi ar gyfer Llawdriniaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.