Credir bod tua 1 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda dementia, ac efallai bod gan lawer mwy broblemau eraill gyda'u hymennydd gan gynnwys problemau gyda hwyliau, cof a chyfathrebu. Pan fyddwch chi'n cael llawdriniaeth mae yna hefyd risg o ddryswch tra byddwch chi'n sâl (deliriwm) - bydd y dudalen hon yn cynnig rhagor o wybodaeth am y cyflyrau hyn a'r hyn y gallwch chi ei wneud i gefnogi'ch ymennydd a'u hatal.
Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau meddwl am amddiffyn ein hymennydd. Ac mae ymchwil yn dangos y gall cymryd camau i wella ein hiechyd yn ein 30au, 40au a 50au fod yn arbennig o bwysig wrth helpu i leihau ein risg o ddatblygu dementia yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae hyn oherwydd y gall newidiadau yn yr ymennydd sy'n gysylltiedig â chlefydau fel clefyd Alzheimer, sy'n achosi colli cof a phroblemau meddwl, ddechrau ddegawdau cyn i unrhyw symptomau ddangos.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.