Byddwn yn ysgrifennu at y gweithiwr proffesiynol a'ch cyfeiriodd at y gwasanaeth mewnblaniadau dargludiad esgyrn fel eu bod yn ymwybodol o ganlyniad eu hatgyfeiriad.
Os byddwch yn bwrw ymlaen i dderbyn cymorth clyw dargludiad esgyrn, byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwneuthurwr y ddyfais fel y gallant fonitro'r perfformiad neu unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cymorth clyw neu'r mewnblaniad. Byddwn yn siarad â chi am hyn yn eich apwyntiad asesu ond os nad ydych am roi caniatâd i rannu gwybodaeth neu os ydych am dynnu eich caniatâd yn ôl, rhowch wybod i ni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.