Bydd y llawfeddyg yn trafod manylion y llawdriniaeth gyda chi ar ôl i benderfyniad terfynol gael ei gytuno ar ba ddyfais fydd yn addas i chi. Bydd eich llawfeddyg yn penderfynu a oes angen anesthesia cyffredinol neu leol yn dibynnu ar eich hanes meddygol a'r math o fewnblaniad rydych chi'n ei gael. Mae BCHI yn weithdrefn syml a wneir yn y theatr lawdriniaeth sy'n cymryd tua 1-2 awr. Mae'n debyg y cewch eich rhyddhau'r un diwrnod. Bydd eich llawfeddyg ENT yn trafod y llawdriniaeth yn fanylach.
Pythefnos ar ôl y llawdriniaeth, bydd eich llawfeddyg yn yr adran ENT yn eich adolygu. Os yw'r llawfeddyg yn hapus, bydd yn cysylltu â'ch Awdiolegydd fel y gellir trefnu dyddiad i chi gael eich prosesydd clyw wedi'i osod. Fel arfer, 6 wythnos ar ôl y llawdriniaeth yw hyn i sicrhau bod y gosodiad mewnblaniad yn ddiogel.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.