Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cydbwysedd

Mae

Asesiad Vestibwlaidd

Mae rhai mathau o bendro neu aflonyddwch cydbwysedd yn gysylltiedig â phroblem yn y glust fewnol. Efallai eich bod wedi cael eich atgyfeirio am asesiad o 'swyddogaeth festibwlar' os ydych wedi rhoi gwybod am bendro neu anghydbwysedd i Feddyg Teulu, Ymgynghorydd ENT, Ymgynghorydd Niwroleg neu Ymgynghorydd Gofal yr Henoed.

Yn ystod asesiad nodweddiadol, gofynnir llawer o gwestiynau i chi am eich symptomau, a bydd y clinigwr yn penderfynu pa brofion fydd fwyaf defnyddiol wrth sefydlu a yw eich symptomau oherwydd aflonyddwch yn yr organ gydbwysedd yn eich clust fewnol ai peidio.

Bydd canlyniadau ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer rheoli eich symptomau yn cael eu trafod ar ddiwedd yr apwyntiad.

Cwestiynau Cyffredin

 

 

Adsefydlu Vestibwlaidd

Os yw wedi'i nodi y gallai cwrs o ymarferion fod o fudd i'ch symptomau, cynigir apwyntiad i chi ar gyfer adsefydlu. Yn ystod yr apwyntiad, efallai y gofynnir cwestiynau pellach i chi er mwyn sefydlu'r tebygolrwydd y byddwch yn elwa o gwrs o ymarferion wedi'u teilwra.

Os teimlir y gallai ymarferion fod o gymorth, gofynnir i chi roi cynnig ar gyfres o symudiadau pen, llygaid a/neu gorff. Bydd eich ymateb i'r rhain yn cael ei nodi, a bydd set addas o ymarferion yn cael eu rhagnodi yn seiliedig ar hyn.

Fel arfer, bydd angen i chi berfformio'r ymarferion ddwywaith y dydd am 6-8 wythnos er mwyn cael y budd mwyaf ohonynt, a byddwn yn trefnu apwyntiad dilynol dros y ffôn i wirio'ch cynnydd yn ystod yr amser hwn.

Cwestiynau Cyffredin

 

 

Cyflyrau cyffredin

 

Fertigo Lleoliadol Parocsysmal Anfalaen (BPPV)

Ewch yma i weld y daflen wybodaeth BPPV ar ffurf Word.

 

Meigryn Vestibwlaidd

Ewch yma i weld y daflen wybodaeth am Feigryn Vestibwlaidd ar ffurf Word.

 

Labyrinthitis a Niwritis Vestibular

Ewch yma i weld y daflen wybodaeth Labyrinthitis a Niwritis Vestibular ar ffurf Word.

Dolenni Defnyddiol

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Noder nad yw rhai dolenni allanol ar gael yn y Gymraeg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.