Sylwer: Mae rhai o'r dolenni ar y dudalen hon ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Gwybodaeth bwysig – darllenwch hon: Nid ydym yn cynnig gwasanaeth atgyweirio ar gyfer cleifion sy'n galw heibio heb apwyntiad yn unrhyw un o'n adrannau awdioleg. Mae'r awdiolegwyr yn llawn o ran apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw, ac annhebygol yw y cewch eich gweld heb apwyntiad. Er mwyn osgoi siom, darllenwch y wybodaeth isod ynghylch sut i gael gwasanaethau atgyweirio awdioleg. Os nad yw'r opsiynau a restrir isod yn addas i chi, neu os cawsoch gyngor i wneud apwyntiad, cysylltwch â ni. Gall fod cyfnodau aros hir ar gyfer apwyntiadau cynnal a chadw arferol; rydym yn blaenoriaethu cleifion sydd ag anghenion brys.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.