Oedran a geneteg yw'r ffactorau mwyaf na ellir eu haddasu mewn risg dementia, ond mae ffactorau eraill, gan gynnwys colli clyw, hefyd yn gysylltiedig â dementia. Nid yw'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia wedi'i ddeall yn dda ac mae'n debygol o fod yn gymhleth. Mae colli clyw yn gysylltiedig â chyflyrau fel iselder ac ynysu cymdeithasol, sydd hefyd yn gysylltiedig â dementia. Gall colli clyw heb ei drin arwain at ynysu cymdeithasol, sydd wedi'i ddangos i gynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu dementia. Gall rheoli colli clyw gyda chymhorthion clyw wella cyfathrebu a chefnogi ymgysylltiad cymdeithasol, sydd ill dau yn bwysig ar gyfer cynnal lles cyffredinol ac iechyd yr ymennydd. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil i ddeall yn llawn sut y gallai rheoli colli clyw effeithio ar risg dementia.
Ewch yma i wylio fideo ar golli clyw a dementia ar YouTube.
Ewch yma i weld y 'ffeithiau a datganiadau ar ddementia' ar wefan yr RNID.
Gofal Dementia
Ewch yma i'r dudalen 'gofal dementia' ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.