Mae'r seicolegydd yn y gwasanaeth diabetes pediatrig yn gweithio'n agos gyda'r meddygon, nyrsys a dietegwyr sy'n cefnogi plant a phobl ifanc â diabetes a'u teuluoedd.
Efallai y byddwch yn cwrdd â'r seicolegydd yn ystod un o'ch prif apwyntiadau clinig diabetes. Dyma gyfle i gael sgwrs fer am sut mae byw gyda diabetes yn mynd. Gall y seicolegydd hefyd drefnu i gwrdd â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar wahân os yw'n ddefnyddiol.
Gwyddom y gall byw gyda diabetes weithiau achosi straen ychwanegol neu deimlo'n anodd dal ati. Dyna pam mae seicolegydd yn y rhan fwyaf o dimau diabetes da. Mae yna lawer o dystiolaeth o ffyrdd o gefnogi teuluoedd gydag unrhyw straen ychwanegol neu drallod y gallai diabetes ei achosi, fel nad yw'n amharu ar sut rydych chi eisiau byw bywyd.
Nid oes rhaid gwneud môr a mynydd i wneud cais i gwrdd â ni. Siaradwch ag unrhyw aelod o'r tîm diabetes pediatrig os ydych chi'n meddwl y gallen ni fod o gymorth a byddwn yn trefnu i gwrdd â chi.