Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Treforys fydd y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei fferm solar ei hun

Delwedd o fferm solar.

Ysbyty Treforys fydd y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei fferm solar ei hun ar raddfa lawn, a hynny ar gost o £5.7 miliwn.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf ar y datblygiad 4MW ar dir ar Fferm Brynwhillach, a fydd wedi’i chysylltu â Treforys drwy wifren breifat 3km o hyd.

Bydd yn cyflenwi bron i chwarter o ynni Treforys, gan dorri'r bil trydan oddeutu £500,000 y flwyddyn a lleihau allyriadau carbon yn sylweddol.

Delwedd o brif fynedfa Ysbyty Morriston, a fferm solar. Bydd y fferm solar yn cynnwys 10,000 o baneli ar draws 14 hectar o dir. Er cymhariaeth, mae safle Ysbyty Treforys yn 18 hectar.

Mae Bae Abertawe wedi derbyn cyfanswm o £13.5 miliwn ar gyfer y fferm solar ac ar gyfer  mesurau arbed ynni a lleihau carbon eraill, sy'n ad-daladwy ar sail buddsoddi i arbed.

Yn dilyn proses ddethol helaeth, dewisodd y Bwrdd Iechyd Vital Energi fel ei bartner.

Dywedodd Cadeirydd BIP Bae Abertawe, Emma Woollett: “Mae ein Bwrdd Iechyd yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at genedlaethau’r dyfodol o ddifrif trwy leihau ein heffaith amgylcheddol ac yn benodol torri ein hôl troed carbon.

“Rwy’n arbennig o falch o weld gwaith caled ac ymrwymiad ein staff ystadau ymroddedig yn cael eu gwobrwyo am mai’r Bwrdd Iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i fynd yn wyrdd mewn ffordd mor arloesol ond ymarferol.

“Mae torri ein hôl troed carbon a thorri costau yn golygu bod pawb ar eu hennill: y Bwrdd Iechyd, ein cleifion a'n trethdalwyr.”

Mae Bae Abertawe yn gwario tua £6.9 miliwn y flwyddyn ar drydan, dŵr, nwy, a thrin carthffosiaeth. Disgwylir i hyn godi flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar gyfradd uwch na chwyddiant.

Bydd y buddsoddiad yn y fferm solar a chynlluniau lleihau ynni yn arwain at warantu arbediad o fwy na £1.5 miliwn y flwyddyn. Bydd hefyd yn lleihau allyriadau carbon gan oddeutu 3,000 tunnell y flwyddyn.

Dywedodd Des Keighan, sef Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Bwrdd Iechyd, bod y prosiect yn cael ei gyflawni mewn dau gam.

“Y cam cyntaf oedd ystod o fesurau cadwraeth ynni yn ysbytai Treforys a Singleton, ac adeiladau eraill y Bwrdd Iechyd.

“Roedd y rhain yn cynnwys newid y mwyafrif o’r ffitiadau golau a gwella'r systemau inswleiddio a’r ynysyddion, ac uwchraddio systemau rheoli adeiladau.

“Yr ail gam yw datblygiad y fferm solar, a fydd yn ein galluogi i gynhyrchu ein trydan ein hunain.

“Ar yr adegau pan fo’r defnydd ar ei uchaf, bydd hyn yn cwrdd â'r galw am drydan ar gyfer yr ysbyty cyfan, gan leihau ein hallyriadau carbon.

“Mae hyn yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.”

Mae'r mesurau cadwraeth ynni wedi'u cyflawni trwy gydol 2020 a byddant yn cael eu cwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Disgwylir i'r gwaith ar ddatblygiad y fferm solar ddechrau yn gynnar yn 2021 a dylai fod yn weithredol erbyn diwedd yr haf.

Ychwanegodd Mr Keighan: “Ein Bwrdd Iechyd ni fydd yr un cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei fferm solar ei hun.

“Mae wedi bod yn heriol iawn. Er hynny, gyda llawer o waith caled gan ein tîm prosiect, a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill, rydym wedi llwyddo i sicrhau'r datblygiad."

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bae Abertawe: “Yn ogystal â chadw ein hysbytai a’n cyfleusterau’n rhedeg 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn er mwyn i’n clinigwyr ddarparu gwasanaethau i gleifion, dyma enghraifft arall o’r ffordd y mae ein timau ystadau’n gwneud cyfraniad enfawr i'n cleifion a'n cymunedau.

“Rwy’n canmol pawb sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn realiti.”

Dywedodd Phil Mottershead, Cyfarwyddwr Cyfrif Vital Energi: “ Roeddem yn falch iawn o gael ein dewis fel partner y Bwrdd Iechyd.

“Mae’n gyfe cyffrous gallu cyflenwi ynni solar ar y raddfa hon ar gyfer un o safleoedd y GIG.

“Mae ei gyfuno â mesurau cadwraeth ynni eraill yn gwneud hwn yn ateb arloesol iawn i'r GIG.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.