Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd yn ymweld â gwasanaethau Covid hir Bae Abertawe

Cyfarfu

Roedd yn bleser gennym groesawu’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, i Ysbyty Maes y Bae, lle mae’r Gwasanaeth Adsefydlu Long Covid wedi’i leoli, i siarad â staff a chleifion am eu profiadau o weithio ac elwa o’r gwasanaeth.

Mae'n cynnig mynediad i gleifion at adsefydlu sydd wedi'i dargedu at ddeall iechyd a lles pob person.

Cyfarfu Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, â chleifion

Mae'r tîm yn cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, nyrsys anadlol a dietegwyr, ac mae hefyd yn cynnig mynediad at Feddyg Teulu sydd â diddordeb arbennig mewn meddygaeth ffordd o fyw.

Wedi'i anelu at gefnogi dychwelyd i'r gwaith a gweithgareddau dyddiol, mae cleifion yn cael eu helpu gyda materion sy'n cynnwys diffyg anadl, blinder, niwl yr ymennydd, peswch, lefelau ffitrwydd, maeth, gorbryder a rheoli straen.

Gall cleifion sy'n profi symptomau Covid hir gael eu hatgyfeirio i'r cwrs chwe wythnos gan eu meddyg teulu.

Cyfarfu’r Gweinidog hefyd â staff Bae Abertawe sy’n cydlynu’r Gwasanaeth Adsefydlu Cofid Hir, yn ogystal â gwasanaeth ar gyfer gweithwyr bwrdd iechyd sy’n profi symptomau Covid hir.

Mae’r gwasanaeth i staff yn darparu cymorth a chyngor ar y ffordd orau i reoli eu symptomau mewn cyd-destun gwaith ac yn eu helpu nhw a’u rheolwyr llinell i’w galluogi i ddychwelyd i’r gwaith, lle bo’n briodol.

Dywedodd Nicola Perry-Gower, arweinydd clinigol adsefydlu cleifion yr ysgyfaint: “Roedd yn wych croesawu’r Gweinidog Iechyd i arddangos ein gwasanaethau Covid hir ar gyfer cleifion a staff.

“Mae’n hollbwysig dangos pwysigrwydd gwasanaethau fel hyn drwy leisiau’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

“Mae adsefydlu yn allweddol i helpu pobl i reoli symptomau a hybu annibyniaeth.

“Mae’n pwysleisio’r angen parhaus am ddull aml-broffesiynol i ddarparu’r asesiad cyfannol hwnnw a therapi parhaus ar gyfer y grŵp hwn o bobl sy’n profi Covid hir.”

Ewch yma i ddarllen mwy am y Gwasanaeth Adsefydlu Covid Hir.

Ewch yma i ddarllen am grŵp cerdded newydd i bobl sy'n dioddef o symptomau Covid hir.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.