Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau eithriadol yn Ysbyty Treforys - helpwch os gallwch chi os gwelwch yn dda

Diweddariad 12:40pm ar 16/02/2024 – Mae'r Digwyddiad Parhad Busnes yn Ysbyty Treforys wedi dod i ben. Ond mae'r safle'n parhau'n brysur, felly defnyddiwch ffyrdd amgen o gael mynediad at ofal brys lle bo hynny'n bosibl.


Mae Ysbyty Treforys dan bwysau eithafol heddiw, 15/02/2024, gyda niferoedd uchel o gleifion sâl iawn angen triniaeth a gwelyau.

O ganlyniad, rydym ar ein lefel uchaf o waethygu – Digwyddiad Parhad Busnes.

Mae'r staff yn gweithio'n galed iawn. Ond mae'r amseroedd aros yn llawer hirach nag yr hoffem, yn enwedig i'r rhai sy'n mynychu ein Hadran Achosion Brys (A&E) sydd â salwch neu anafiadau llai difrifol ac nad ydynt yn peryglu bywyd.

Ar hyn o bryd, gallwch ein helpu trwy:

  • Peidio â dod i'r Adran Achosion Brys oni bai bod modd osgoi hynny. Rydym yma ar gyfer y rhai sydd â salwch ac anafiadau difrifol a pheryglus iawn. Fodd bynnag, dylai'r rhai sydd â mân anafiadau ac anhwylderau cyffredin ddewis amgen arall. Ewch i'r dudalen hon ar ein gwefan i gael cyngor ar ffyrdd o gael gafael ar ofal brys.
  • Casglu anwyliaid y dywedwyd wrthynt y gellir eu rhyddhau. Mae hyn yn well iddyn nhw a bydd yn ein helpu gan fod angen i ni ganolbwyntio ar ofalu am y cleifion hynny na allant fynd adref.

Diolch am eich dealltwriaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.