Neidio i'r prif gynnwy

Pryder ar ôl gostyngiad o ddwy ran o dair mewn atgyfeiriadau canser

Ysbyty Singleton

Anogir pobl â symptomau posibl o ganser i ofyn am gyngor meddygol ar ôl gostyngiad enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau.

Dywed arbenigwyr yng Nghanolfan Ganser De-Orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton bod gostyngiad o ddwy ran o dair mewn atgyfeiriadau oherwydd y pandemig.

Sarah Gwynne Yn dibynnu ar eu symptomau, bydd meddygon teulu’n atgyfeirio cleifion i un o dri phrif ysbyty Bae Abertawe i ddechrau.

Fis Ebrill diwethaf, roedd 1,218 o atgyfeiriadau ar draws yr holl arbenigeddau canser. Erbyn mis Ebrill eleni, roedd hynny wedi gostwng i ddim ond 409.

Gostyngodd nifer atgyfeiriadau canser yr ysgyfaint, er enghraifft, o 24 i ddim ond pump.

Y gred yw nad yw pobl yn troi at eu meddyg teulu am gyngor oherwydd eu bod yn poeni am y risg bosib o gael Covid-19 os byddan nhw’n cael eu cyfeirio am brofion ysbyty.

Ond dywedodd yr oncolegydd clinigol ymgynghorol Sarah Gwynne (yn y llun) fod ysbytai a meddygfeydd mor ddiogel ag y gallan nhw fod.

“Mae’n gyfnod anodd ar hyn o bryd. Mae pobl yn bryderus iawn am y posibilrwydd o ddod i'r ysbyty neu fynd i weld eu meddyg teulu,” meddai Dr Gwynne.

“Gallwn weld bod nifer y bobl a fyddai fel rheol yn cael eu cyfeirio â symptomau posib o ganser wedi gostwng yn ddramatig – rydym yn gweld dim ond traean o’r nifer y byddem yn ei ddisgwyl.

“Mae hynny'n gwneud i ni feddwl bod yna gleifion allan yna a allai fod â chanser ond nad ydyn nhw'n cysylltu â'u meddyg teulu.”

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau triniaeth arloesol y bwrdd iechyd, sy’n cynnwys cemotherapi a radiotherapi, uned gofal y fron a ward canser bwrpasol, wedi'u lleoli yng Nghanolfan Ganser De-Orllewin Cymru.

Mae'n trin cleifion o bob rhan o Dde-Orllewin Cymru, o Ben-y-bont ar Ogwr, yr holl ffordd drwy Abertawe i Gaerfyrddin a chyn belled i'r gogledd ag Aberystwyth. Darperir gwasanaethau ychwanegol yn ysbytai Treforys a Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Dr Gwynne: “Os oes gennych chi achos pryder a bod y symptomau’n parhau ac nad ydych yn siŵr beth yw hynny, y pwynt cyswllt cyntaf yw eich meddyg teulu.

“Gall y meddyg teulu ofyn cwestiynau ynghylch pa mor hir y mae’r symptomau wedi bod yno, efallai y byddant am eich archwilio, ac efallai y byddant am eich anfon am rai profion.

“Os oes rhywbeth o’i le, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwybod amdano.

“Efallai y bydd y prawf yn eich gwneud yn dawel eich meddwl ar ôl darganfod nad oes unrhyw beth o'i le. Ond os oes rhywbeth o'i le yna mae angen i ni wybod er mwyn i ni allu llunio cynllun triniaeth ar eich cyfer chi."

Dywedodd Dr Gwynne fod rhagofalon wedi eu cymryd i amddiffyn pobl sy'n dod i'r ysbyty rhag Covid-19.

Er enghraifft, byddant yn gweld staff yn gwisgo masgiau, a gallai eu tymheredd gael ei wirio hefyd cyn dod i mewn i ardaloedd clinigol.

“Mae hyn i gyd er diogelwch pobl,” ychwanegodd. “Byddwn hefyd yn ceisio lleihau cymaint â phosibl ar eu hymweliadau â'r ysbyty.

“Felly'r neges yw - rydyn ni wir eisiau eich gweld chi os oes gennych chi unrhyw symptomau rydych chi'n poeni amdanyn nhw.

“Rydyn ni yma i'ch gweld chi. Rydyn ni'n dal i roi triniaeth yn y ganolfan ganser yn Abertawe. Rydyn ni'n dal ar agor, ac rydyn ni wedi gwneud amgylchedd yr ysbyty mor ddiogel ag y gall fod. "

  

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.