Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â diystyru COVID - neges i weithwyr

Atgoffir gweithwyr yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot am bwysigrwydd dilyn arweiniad COVID-19 ar eu ffordd i'r gwaith ac oddi yno, yn ogystal ag yn ystod seibiannau.

Daw’r neges ar ôl i swyddogion olrhain y rhanbarth ddod o hyd i nifer o achosion lle'r oedd pobl yn dilyn canllawiau COVID-19 wrth weithio, ond nid wrth rannu ceir neu gymdeithasu â chydweithwyr eraill yn ystod seibiannau o’r gwaith, fel mewn ffreutur neu gaffi.

Mae Coronafeirws yn ymledu'n hawdd mewn lleoedd bach caeëdig fel faniau a cheir ac mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pobl osgoi rhannu ceir os yn bosib. Lle nad yw hyn yn bosib mae nifer o fesurau a all helpu i leihau'r risg o drosglwyddo. Mae'r rhain yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb oherwydd mae'n debyg y bydd cadw dau fetr ar wahân yn anodd, agor ffenestri i adael i'r aer gylchdroi, eistedd mor bell oddi wrth eich gilydd â phosib, osgoi wynebu eich gilydd, a chadw ardaloedd sydd wedi'u cyffwrdd yn aml, fel yr olwyn lywio a dolenni drysau, yn lân.

Meddai Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer ardal Bae Abertawe,

"Mae’n bwysig cofio nad yw cydweithwyr yn cyfrif fel aelodau o’ch aelwyd eich hun, felly mae nifer o gamau y mae’n rhaid i bawb eu cymryd i leihau’r cysylltiad â COVID-19.

"Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw gweithio gartref, rywfaint o'r amser neu drwy'r amser. Lle nad yw hyn yn bosib, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadw pellter corfforol a chymdeithasol oddi wrth bobl nad ydych chi'n byw gyda nhw, wrth weithio ac yn ystod seibiannau.

"Mae mesurau rhesymol eraill i leihau’r cysylltiad â COVID-19 y dylai gweithwyr eu hymarfer. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio cyfarpar amddiffyn personol a gorchuddion wyneb yn gywir mewn mannau dan do lle mae'n anodd cadw pellter 2 fetr, cyfyngu ar lefel y rhyngweithio wyneb yn wyneb a defnyddio rhwystrau corfforol.

"Mae hefyd yn hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i gynnal hylendid a glendid amgylcheddol, fel golchi dwylo’n dda am 20 eiliad gyda sebon a sychu eich dwylo’n drylwyr, neu ddefnyddio hylifau diheintio dwylo sy’n cynnwys alcohol, cyn ac ar ôl cysylltiad agos."

Ni ddylai unrhyw un sy'n dangos symptomau COVID, ni waeth pa mor ysgafn, fynd i'r gwaith, ond rhaid iddynt gymryd camau ar unwaith i hunanynysu gartref a chael prawf. Mae'n rhaid i'r aelwyd lle maen nhw'n byw hunanynysu hefyd. Os oes unrhyw un arall yn yr aelwyd yn dangos symptomau, mae'n rhaid iddynt gael prawf. Os yw canlyniad prawf yn bositif bydd swyddog olrhain cysylltiadau’n cysylltu â chi i'ch cynghori ar yr hyn sy’n digwydd nesaf. Gallai'r rheini sy'n anwybyddu'r cyngor hwn ac sy'n profi'n bositif yn ddiweddarach ymledu'r feirws heb wybod eich bod wedi gwneud hynny a gall COVID-19 ladd.

Y prif symptomau yw: tymheredd uchel/peswch newydd parhaus/neu colli'ch synnwyr blasu neu arogli. Am ragor o wybodaeth am sut i gael prawf ewch i'r tudalen hon.

Am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am hunanynysu ewch i'r tudalen hon.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.