Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad anghyffredin wrth i bâr priodi ar Ward T

Toast

Mae’r pâr newydd briod wedi diolch i nyrsys yn Ysbyty Treforys am eu helpu i gyfnewid addunedau ar ward y priodfab.

Yn y llun uchod: Rose sydd newydd briodi a Robert Pritchard

Pan gafodd Robert Pritchard, sydd â chanser, ragolygon ansicr fe benderfynodd ef a'i bartner, Rose, gyfnewid addunedau priodas fel mater o bwys.

Cymerodd y seremoni, a gynhaliwyd ar Ward T ar ddydd Sul olaf mis Mai, lai na phenwythnos i drefnu a gwireddu, ond roedd wedi bod ar y gweill ers dros 20 mlynedd.

Eglurodd yr Mrs Rose Pritchard newydd, sy’n dod o Lanelli: “Rydym wedi bod gyda’n gilydd ers bron i 21 mlynedd ac er i Rob gynnig i mi dair blynedd yn ôl, ar ôl cael diagnosis o ganser, aeth pethau’n drech.

“Yna, ychydig wythnosau yn ôl, cafodd ei dderbyn i Ysbyty Treforys.

“Dydyn nhw ddim wedi dweud faint o amser sydd ganddo ond dyw e ddim yn edrych yn dda iawn. Mae e'n gwaethygu a dweud y gwir.

“Gan wybod nad yw’n mynd i fod gyda ni lawer hirach, gwnaethom y penderfyniad i ddod yn ŵr a gwraig yn y fan a’r lle. Hyn oedd yn teimlo’n iawn i ni”

Rose and Rob Cake

Roedd y penderfyniad i briodi fwy neu lai yn syth yn un a gyrhaeddwyd ar y cyd.

“Awgrymodd ffrind i mi, sy’n weinidog, ‘Pam na wnewch chi nawr?’” meddai Rose. “Cytunodd y ddau ohonom a dweud 'Pam lai?'. Dyna fel y digwyddodd. Roedd yn gynnig ar y cyd.

“Unwaith i ni wneud y penderfyniad fe wnes i siarad â Sally, prif nyrs y ward, ac roedd hi’n “Trojan”. Hi cymerodd yr awenau a sicrhau i hyn ddigwydd. Oni bai amdani dydw i ddim yn meddwl y byddwn i a Rob wedi ei wneud. Fe roddodd hi’r canllawiau a’r holl gefnogaeth inni, a gwnaethom yr hyn oedd yn rhaid i ni ei wneud.”

Am y seremoni ei hun dywedodd Rose, a oedd yn gwisgo siwt lliain gwyn ar gyfer yr achlysur: “Daeth fy nwy ferch - mae fy mab i ffwrdd ar hyn o bryd - i fod yn dystion.

“Roedd yn hudolus i fod yn onest gyda chi, yn well nag yr oeddwn erioed wedi dychmygu.

“Yn amlwg doedden ni ddim yn gallu mynd i ffwrdd ar fis mêl ond fe gawson ni noson hyfryd gyda’n gilydd, yn yr ystafell, roedd hi mor hyfryd.

“Rydw i eisiau dweud diolch anferthol i’r staff. Ni anghofiaf byth yr hyn a wnaethant i ni, a byddaf o hyd yn ddiolchgar.”

Dywedodd Prif Nyrs y Ward, Sallyanne Greenfield: “Dyma’r tro cyntaf yn fy holl flynyddoedd o nyrsio i mi dderbyn cais i bâr briodi ar y ward.

“Yn gyntaf gofynnais i'n fetron a fyddai hi'n fodlon i ni ei drefnu a dywedodd, 'ie.' Yna mi gysylltais ag un o’n caplaniaid i weld a oedd ganddo unrhyw gyngor a, chwarae teg iddo, daeth i fyny o fewn 15 munud gyda’r holl waith papur.

“Roedd yn rhaid i ni gael caniatâd y meddygon hefyd, redden nhw’n hapus i’w gynnig, yna bu’n rhaid i Rose fynd i gwrdd â’r cofrestrydd yn Abertawe.”

Roedd y seremoni yn un syml, am resymau amlwg, ond roedd yn rhywbeth na fydd y bobl oedd yn rhan ohono byth ei anghofio.

Dywedodd Sallyanne: “Fi a chwpl o bobl eraill oedd ar y ward ar y dydd Gwener fu'n trafod sut allwn ni wneud i hyn ddigwydd. Sut allwn ni ei wneud yn arbennig iddyn nhw - oherwydd mae'n amgylchedd ward acíwt prysur.

“Fe wnaethon ni ddod at ein gilydd a phrynu rhai pethau allan o gronfeydd y ward, fel balŵns a chanhwyllau sy'n gweithio â batri, i'w haddurno. Hefyd prynon ni siampên di-alcohol a chacen - er mwyn iddyn nhw allu torri’r gacen.

“Wnaethon ni ddim dweud wrth yr holl staff ei fod yn digwydd oherwydd doedden ni ddim eisiau iddo fod yn llethol - dim ond y bobl oedd yno'r diwrnod hwnnw.

“Roedd yn deimladwy dros ben. Y profiad gwerth chweil go iawn. Roedd yn anrhydedd i fod yn rhan o'r peth. Rydw i wedi bod yn nyrsio ers 31 mlynedd a dwi erioed wedi teimlo felly am unrhyw beth. Mae’n rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio.”

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.