Neidio i'r prif gynnwy

Neges norofeirws brys

dyn yn cydio stumog

25ain Hydref 2019

Mae’r Norofirws yn mynd o gwmpas ein cymunedau.

Mae byg stumog yn amhleserus iawn ar gyfer unrhyw un.

Ond gall fod yn beryglus iawn ar gyfer cleifion ysbyty agored i niwed oherwydd nad yw eu systemau imiwnedd yn ddigon cryf i’w ymladd.

Yn ystod y 24 awr ddiwethaf mae nifer o gleifion yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi profi'n bositif am norofeirws.

Gan fod rhai ohonynt wedi bod yn yr ysbyty am beth amser, mae’n argymell mai ymwelwyr sydd wedi pasio’r haint iddynt.

Mae’r Norofirws wedi ei ganfod yn Ysbytai Gorseinon, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae holl Ysbyty Gorseinon, ward B (trawma ac orthopedig) yn ysbyty Treforys a ward C yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gau i dderbyniadau newydd.

Mae o leiaf rhan o’r achos wedi ei ddilyn yn ôl i berson a ymwelodd un o’n safleoedd. Deallir eu bod wedi bod yn gofalu am rywun oedd â’r norofirws yn eu cartref ac yna daethant i un o’n wardiau, ble y daethant i gyswllt a nifer o gleifion.

Bydd staff yn awr yn atgyfnerthu’r rheolau o gwmpas ymweld, sef:

·    Dim mwy na dau o ymwelwyr i bob gwely

·    Dim plant

·    Golchwch eich dwylo.

·    Peidiwch â rhyngweithio â na chynnig bwyd i gleifion.

Felly rydym yn annog pobl i aros i ffwrdd o’r ysbyty os ydynt yn teimlo’n anhwylus neu os ydynt wedi cael y symptomau o fewn y rhai dyddiau diwethaf.

Peidiwch ag ymweld ag un annwyl os ydych wedi dangos unrhyw symptomau o fewn y 48 awr o leiaf.

Dylech osgoi dod â phlant mewn i ymweld.

Y ffordd orau i amddiffyn eich hunain a’ch teulu yw drwy olchi eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr:

  • Yn enwedig ar ôl defnyddio’r toiled
  • Ar ôl defnyddio troli siopa
  • Cyn bwyta ac yfed

Nid yw geliau alcohol neu hylif diheintio dwylo bob amser yn effeithiol yn erbyn y firysau yma.

Os ydych yn chwydu ac yn cael dolur rhydd, ac mae fel arfer yn pasio ar ôl rhai dyddiau.

Rydym yn annog pobl sydd â’r salwch hwn i aros gartref ac yfed digon o ddŵr. Peidiwch â mynd i’r Adran Frys os gwelwch yn dda.

Os ydych yn bryderus ac angen cyngor, ffoniwch 111 ar gyfer cyngor meddygol 24/7 ac er mwyn cael mynediad i’r gwasanaeth meddygon tu allan i oriau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.