Neidio i'r prif gynnwy

Myfyriwr ar reng flaen y GIG yn ystod Covid-19

Llun o Megan Ware, myfyriwr nyrsio, yn gwenu ar gamera mewn sgrybs porffor.

Prif lun: Megan Ware

Mae myfyriwr nyrsio anabledd dysgu wedi siarad am ei gwaith “heriol ond gwerth chweil” ar reng flaen y GIG yn ystod COVID-19.

Mae Megan Ware wedi bod yn helpu cleifion â salwch difrifol ag anghenion ychwanegol a dderbynnir i Ysbyty Treforys yn Abertawe, gan sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy'n digwydd ac yn cael mynediad at y gefnogaeth orau.

Mae'r myfyriwr 23 oed yn un o lawer o israddedigion a ymatebodd i'r alwad i helpu'r GIG yn ystod y pandemig.

Ond hi yw'r myfyriwr nyrsio anabledd dysgu cyntaf erioed i ymgymryd â lleoliad estynedig gyda'r Nyrs Gyswllt Acíwt i Bobl ag Anableddau Dysgu, Kara Knowles.

“Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod braidd yn gythryblus ac yn ddychrynllyd i bawb o ystyried yr amgylchiadau anrhagweladwy a digynsail,” meddai Megan.

“Fodd bynnag, gallaf ddweud yn onest, pan gefais y dewis i optio i mewn neu allan o leoliad estynedig, ni feddyliais ddwywaith.

“Rwy’n hollol lwcus fy mod i'n gallu bod yn rhan o helpu yn ystod y pandemig hwn ac rwyf yn ennill profiad gwerthfawr hefyd.”

Mae rôl Megan wedi cynnwys gweithredu fel eiriolwr dros gleifion ag anableddau dysgu, eu helpu i wneud synnwyr o'r hyn a all fod yn amser dryslyd iawn a helpu i gynllunio eu derbyn a'u rhyddhau o'r ysbyty.

Mae hi hefyd wedi sicrhau bod y cleifion yn parhau i gael eu cefnogi gan un o'u gofalwyr presennol tra yn yr ysbyty o dan eithriad arbennig i'r rheol dim ymweld yn ystod y pandemig.

Dywedodd Paula Hopes, ymgynghorydd nyrsio anabledd dysgu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae'r lleoliad unigryw hwn wedi caniatáu i Megan wella'r gefnogaeth werthfawr yr ydym eisoes yn ei darparu i rai o'n cleifion mwyaf agored i niwed.

“Rydym yn falch o’i chyflawniadau yn ystod cyfnod a fu’n heriol iawn i’r GIG.”

Dywedodd Megan, myfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), y bydd y wybodaeth a enillodd dros y 12 wythnos ddiwethaf yn helpu i lunio ei gyrfa yn y dyfodol.

Ond mae'n yrfa na ddigwyddodd bron erioed gan nad oedd Megan - a ymddangosodd o'r blaen mewn rhaglen ddogfen S4C am nyrsys - yn ymwybodol bod nyrsio anabledd dysgu yn bodoli fel proffesiwn tan sgwrs gyda ffrind.

“Doeddwn i erioed wedi clywed amdano,” meddai.

“Ond yn ystod fy ngradd gerddoriaeth, fe wnes i leoliad mewn canolfan therapi cerdd i bobl ag anableddau dysgu, yr oeddwn i wrth fy modd ag ef.

“Yna digwyddodd ffrind teulu sôn am y cwrs anabledd dysgu ym Mhrifysgol De Cymru ac roedd yn swnio fel proffesiwn cyffrous a diddorol ac yn rhywbeth y gallwn yn bendant weld fy hun yn ei wneud.

“Mae cael cyfle i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn yr ysbyty wedi rhoi cyfleoedd dysgu diddiwedd i mi ac wedi annog fy hyder yn fawr a gwella fy nghymhwysedd.

Yn ystod ei lleoliad mae Megan wedi cysylltu â gwahanol weithwyr proffesiynol, teuluoedd a gofalwyr, wedi bod yn rhan o benderfyniadau clinigol ac wedi sicrhau bod y cleifion wedi chwarae rhan lawn yn eu gofal eu hunain.

Ychwanegodd: “Mae gallu cael y cyfle hwn yn ystod achos COVID-19 wedi bod yn heriol ond mor werth chweil.”

Dywedodd Rachel Morgan, Arweinydd Arbenigol (Anableddau Dysgu), Prifysgol De Cymru: “Mae'r profiad dysgu gwych y mae Megan wedi elwa ohono oherwydd y berthynas waith ragorol sydd gennym â'n cydweithwyr ymarfer ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Mae Megan yn fyfyriwr nyrsio (anableddau dysgu) anhygoel y gellir dibynnu arni bob amser i fynd uwchlaw a thu hwnt. Mae hi yno bob amser pan fydd angen gwirfoddolwyr brwd arnom ar gyfer prosiectau, ac yn ein cefnogi i godi proffil ein proffesiwn a'n cwrs nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru.

“Rydym yn falch iawn o’i chyflawniadau hyd yn hyn, ac rydym eisoes yn rhagweld y bydd yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych yn ei gyrfa yn y dyfodol fel Nyrs Anableddau Dysgu Gofrestredig .”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.