Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwasanaeth iechyd rhywiol ar gau ar Fai 6 a Mai 13 oherwydd hyfforddiant staff

Mae ein gwasanaeth iechyd rhywiol yn mynd yn ddi-bapur! Ond bydd yn golygu rhywfaint o aflonyddwch byrdymor i gleifion wrth i’n staff gael eu hyfforddi ar y system newydd.

Mae'r adran yn cyflwyno system gyfrifiadurol newydd i gadw cofnodion cleifion ddydd Mawrth, Mai 10.

Ymhlith manteision y platfform digidol newydd fydd y gallu i staff gael mynediad at gofnodion cleifion o unrhyw safle, nad yw’n bosibl gyda’r cofnodion papur cyfredol.

Hefyd, bydd cael cofnodion digidol o fudd i gleifion drwy sicrhau parhad gofal, lle bynnag y maent yn defnyddio’r gwasanaeth, a rheolaeth well ar ganlyniadau profion.

Bydd cyflwyno'r system yn arwain at beth aflonyddwch byrdymor wrth i'n staff gael eu hyfforddi a'u diweddaru. Gall hyn bara am fis.

Bydd yr adran, gan gynnwys yr holl glinigau a’r llinellau brysbennu, hefyd ar gau ddydd Gwener, Mai 6 a dydd Gwener, Mai 13 oherwydd hyfforddiant staff.

Dylai unrhyw un sydd ag ymholiadau brys ar y dyddiadau hyn gysylltu â'u meddygfa neu ffonio 111.

Mae mynediad at glinigau iechyd rhywiol bellach ar gael drwy apwyntiadau yn unig, drwy ffonio 0300 5550279, ond sylwer, bydd y llinell ar gau rhwng 12.30pm  ac 1pm bob dydd ar gyfer cinio.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.