Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddau glaf COVID a awyrwyd yn gyntaf yn mynd adref

Danny Egan, mewn cadair olwyn, yn canmol staff sydd yn clapio drosto

Prif lun: Mae'r claf Danny Egan, 73, yn cymeradwyo staff wrth iddynt ei longyfarch iddo adael Ysbyty Treforys yn dilyn iddo wella o COVID-19.

 

Roedd Danny Egan, a oroesodd y Coronafeirws, yn gwybod yn union beth yr oedd am ei wneud ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty - rhoi cusan i'w wraig.

Roedd y taid 73 oed yn un o'r ddau glaf COVID-19 cyntaf a awyrwyd i fynd adref o Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cafodd yr adferiadau rhyfeddol eu nodi gan ddwsinau o staff a leiniodd y coridorau y tu allan i ward H i anfon Danny a David Courtney-Williams, 48 oed, nyrs â gofal ar ward 12 yn Ysbyty Singleton, gartref gyda rownd gyffrous o gymeradwyaeth.

Meddai Nyrs Ward H, Kirsty Hopkins: “Roeddent yn sâl iawn ac wedi eu hawyru am gryn amser yn ITU (gofal dwys).

“Byddwch wedi gweld yn y cyfryngau nad yw rhai pobl yn llwyddo i ddod oddi ar yr awyrydd, felly mae wedi bod yn anhygoel eu gweld yn gwella ac yn cael eu rhyddhau.

“Mae ITU yn wych yn y gofal maen nhw'n ei ddarparu o dan y pwysau maen nhw'n eu gwynebu ac maen nhw wedi cynnig Ward H â chefnogaeth wych i gleifion cyn ac ar ôl iddynt gael eu derbyn ar yr ITU."

Ychwanegodd: “Mae'n foment falch iawn. Bu'n rhaid i ni addasu mor gyflym. Rydyn ni'n ward hollol wahanol fel arfer - rydyn ni'n ward wroleg - felly wrth ofalu am gleifion anadlol, mae'r tîm wedi bod yn anhygoel. Maen nhw wedi addasu'n dda mewn gwirionedd. ”

Mae’r llun yn dangos y claf Danny Egan mewn cadair olwyn drws nesaf i’r Brif Nyrs Kirsty Hopkins Danny Egan, 73, o Bort Talbot, gyda’r Brif Nyrs Kirsty Hopkins
Llun: BIPBA

Dydy peiriannydd gwasanaeth wedi ymddeol, Danny, o Bort Talbot, ddim yn cofio llawer o'r wythnosau diwethaf, ond roedd yn llawn canomliaeth i'r staff a helpodd delio â'r feirws.

“Fe aethon ni allan, ar gyfer pen-blwydd fy mab, a’r peth nesaf roeddwn i’n deffro mewn ward a doedd gen i ddim sanau ar fy nhraed ac roedd pobl yn ceisio dweud wrtha i symud fy nhraed ac roeddwn i’n meddwl, 'Sut alla i symud fy nhrraed? Ble ydw i?'

“Dw i ddim yn cofio dod yma, ond o fewn wythnosau fe ddechreuodd pethau symud a dechrau mynd yn eu blaen. Wrth gwrs, nid oedd y teulu yma gyda'r cyfyngiadau.

“Ond mae gen i ddau o wyrion bach allan yna. Mae'n debyg y gallwn eu codi heddiw. Yr adeg hon yr wythnos ddiwethaf ni fyddwn wedi gallu eu codi.

“Rwy’n teimlo tipyn gwell o lawer.”

Ychwanegodd: “Dw i ddim yn gwybod beth yw'r tîm gorau yng ngolwg pêl-droed unrhyw un, ond mae'n rhaid mai dyma yw'r tîm gorau i ailadeiladu pobl. Rwy'n credu y gallent hyd yn oed roi cadwyn ar eich beic. ”

Pan ofynnwyd iddo beth y byddai'n ei wneud gyntaf wrth adael yr ysbyty, atebodd: “Rhoi cusan i'm gwraig!”

Dywedodd cyfarwyddwr nyrsio Ysbyty Treforys, Mark Madams, fod y rhyddhau yn codi ysbryd staff sydd wedi gweld amseroedd anodd.

“Mae ein staff wedi gweithio’n hynod o galed yn cefnogi pob claf â'r Coronafeirws yma yn Ysbyty Treforys a’r holl deuluoedd oedd ddim yn gallu ymweld,” meddai.

Mae’r llun yn dangos y claf David Courtney-Williams yn cymeradwyo staff sy’n clapio Prif weinydd nyrsio David Courtney-Williams yn rhoi sêl bendith ar ei gydweithwyr wrth iddynt glapio iddo adael Ysbyty Treforys
Llun: BIPBA

“Yn amlwg bu rhai canlyniadau trist iawn. Mae pob un o'r timau clinigol wir yn teimlo pob un ohonynt.

“Felly mae'n wirioneddol ddyrchafol ac yn gefnogol iawn i'r staff wybod ein bod wedi cael rhai goroeswyr o'r Coronafeirws ac mae eu gweld yn cael eu rhyddhau heddiw yn atgyfnerthu ein bod yn ymdrechu bob tro i roi'r canlyniadau gorau i gleifion.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.