Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhith-rowndiau yn cysylltu ymgynghorwyr â chleifion o bell

Mae rhith-rowndiau’r ward yn cysylltu ymgynghorwyr â’u cleifion o bell yn yr ysbyty.

Mae tîm gwasanaethau digidol Bae Abertawe wedi sefydlu system newydd - gan ddefnyddio cyfrifiaduron symudol a Microsoft Teams - i sicrhau bod meddygon sydd yn gwarchod gartref yn dal i allu gweld eu cleifion yn eu rowndiau dyddiol.

Dr Moustafa Elkhatieb, arbenigwr meddygaeth strôc a geriatrig, oedd un o’r cyntaf i ddefnyddio’r system. Dywedodd wrth Wales Online ei fod wedi ffonio ei gydweithwyr am ddiweddariadau ynghylch ei gleifion ac yn edrych ar ei gyfrifiadur gartref – ond nid yw unrhyw beth cystal â chyswllt wyneb yn wyneb.

Ychwanegodd: “Mae’n ffordd dda o weithio – yn well na’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

“… Hefyd, mae camera’r cyfrifiadur yn fy ngalluogi i glosio at fan penodol claf i weld os oes brech neu wlser, er enghraifft.

“Gallaf gyfathrebu â chleifion, a thrafod unrhyw bryderon.

“Gallant ddweud wrthyf am unrhyw symptomau, ac os oes ganddynt bryderon ynghylch eu meddyginiaeth.”

I ddarllen yr erthygl lawn, gyda mwy o fanylion ar ddatblygiadau digidol y Bwrdd Iechyd yn ystod achos COVID-19, dilynwch y linc hon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.