Mae chwarae rownderi yn profi'n boblogaidd gyda'r rhai sydd am aros yn egnïol.
Mae nifer gynyddol o oedolion ym Mae Abertawe yn dwyn i gof atgofion o'u plentyndod drwy ddechrau'r gamp yr oeddent yn arfer ei chwarae ar iard yr ysgol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynghreiriau rownderi, i fenywod a rhywiau cymysg, wedi ymddangos ar draws yr ardal gan gynnig ffordd hwyliog o wella iechyd corfforol a meddyliol.
Mae Katy Goss (yn y llun uchod), gweithiwr 46 oed ym Mae Abertawe, yn un o bron i 10,000 o chwaraewyr sydd wedi ymuno â chynghrair rownderi gymdeithasol My Rounders, sydd â 360 o dimau ledled de-orllewin Cymru.
Dywedodd: “Efallai eich bod wedi gweld rhywfaint o adfywiad ar draws Bae Abertawe gyda llawer o bobl yn ailgyflwyno eu hunain i gêm y rownderi, rhywbeth nad yw llawer ohonom wedi’i chwarae ers i ni fod yn yr ysgol gynradd, mae’n debyg.”
Mae Katy wedi siarad i gefnogi ymgyrch Awst Actif y bwrdd iechyd, sy'n annog pobl i wneud ymarfer corff er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles.
Dywedodd: “Mae mor bwysig cadw’n heini, yn enwedig wrth i ni fynd yn hŷn oherwydd rydyn ni’n gwybod, er mwyn iechyd ein hesgyrn, po fwyaf actif ydyn ni, y cryfaf yw ein hesgyrn, y mwyaf o fàs cyhyrau sydd gennym ni, y gorau y byddwn ni’n gallu ymdopi â chwympiadau a baglu a llithro wrth i ni fynd yn hŷn.
“Mae’n dda i iechyd ein calon. Mae’n dda i bob agwedd ar ein hiechyd corfforol.
“A’r pwysicaf oll, mae’n dda i’n hiechyd meddwl hefyd.
“Mae rownderi yn fudiad cymdeithasol iawn. Mae lle yma i bawb ac rydym yn croesawu chwaraewyr o 16 oed a hŷn, dynion a menywod, byddem yn eich croesawu ni waeth beth yw eich cefndir, ni waeth beth yw eich lefelau ffitrwydd.
“Rydyn ni’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl pan maen nhw’n chwarae rownderi.”
Mae'r Athro Hugo Van Woerden, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi rhoi ei gefnogaeth i'r ymgyrch Awst Actif gan ddatgan bod canllawiau cenedlaethol diweddar yn pwysleisio bod pob symudiad yn cyfrif a gall hyd yn oed cynnydd bach mewn gweithgarwch wneud gwahaniaeth.
Dywedodd: "Nid yw Awst Actif yn ymwneud â rhedeg marathonau. Mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd syml o symud mwy ac eistedd llai."
Mae Katy hefyd wedi helpu i gynhyrchu fideo byr yn hyrwyddo rownderi fel ffordd o gadw'n heini. Mae'n un o bedwar fideo o'r fath y gellir eu canfod ar dudalen Facebook y bwrdd iechyd gyda'r lleill yn hyrwyddo rygbi cyffwrdd, cerdded a parkruns.
Gobeithir y bydd y fideo yn annog eraill i rannu syniadau ar sut i gadw'n actif.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.