Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys yn ymuno â thîm rygbi hoyw i rannu neges bwysig

Swansea Vikings

Nyrsys yn ymuno â thîm rygbi hoyw i rannu neges bwysig

Mae nyrsys arbenigol wedi ymuno â thîm rygbi hoyw yn Abertawe i godi ymwybyddiaeth o fanteision profi’n gynnar am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Roedd y nyrsys o wasanaeth iechyd rhywiol UHB Bae Abertawe (yn y llun uchod gyda'r Swansea Vikings) hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar feddyginiaeth.

Mae'n rhan o ymgyrch Ewropeaidd i annog sefydliadau partner ym maes iechyd i hyrwyddo profion iechyd rhywiol i atal a rheoli'r afiechydon.

Dywedodd Joanne Hearne, nyrs arweiniol iechyd rhywiol: “Fe wnaeth Swansea Vikings ein gwahodd i un o’u gemau i gynnig sgrinio iechyd rhywiol i unrhyw un a oedd eisiau profi.

“Y fantais oedd y gallem ddarparu ein gwasanaethau profi yn y fan a’r lle.

“Rhoddwyd gwybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ym Mae Abertawe a’r gwasanaeth profi ar-lein am ddim gan Frisky Wales.

“Fe wnaethom hefyd ddarparu gwybodaeth bwysig ar sut i gael gafael ar broffylacsis ôl-amlygiad a meddyginiaeth proffylacsis cyn-amlygiad os ydynt wedi bod yn agored i risg neu leihau unrhyw risg yn y dyfodol o ddal HIV.

“Byddwn yn dadansoddi’r profion yn ôl yn yr ysbyty a bydd y chwaraewyr yn derbyn y canlyniadau o fewn pythefnos a thriniaeth os bydd angen.”

Mae tîm rygbi Swansea Vikings yn dîm hoyw a chynhwysol sy'n rhedeg o Glwb Rygbi Swansea Uplands.

Mae'r tîm yn gysylltiedig ag Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Hoyw Rhyngwladol.

Dywedodd Rhys Panniers o'r Vikings fod holl aelodau'r tîm yn croesawu'r gwasanaeth ochr y cae a ddarparodd Joanne a'i thîm.

Meddai: “Roedd y gwasanaeth iechyd rhywiol mor hawdd ac anhygoel, gan gynnig gwiriad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol am ddim a rhoi cyngor gwych hefyd.

“Nid yw iechyd rhywiol yn bwnc y mae llawer o bobl yn teimlo yn agored i siarad amdano ac mae gan rai bryder ynghylch mynd i gael eu gwirio gan mai ofn yr anhysbys ydyw.

“Rwy’n credu pe bai’r gwasanaeth hwn ar gael yn fwy y bydd yn hyrwyddo mwy o bobl i gael eu gwirio a deall y gwahanol heintiau ac afiechydon y gallem fod yn agored iddynt hefyd.

“Roedd yn wasanaeth anhygoel.”

Joanne Hearne Ychwanegodd Joanne (yn y llun ar y dde) : “Mae ymchwil yn dangos buddion diagnosis cynnar o HIV a chychwyn ar driniaeth.

“Bydd profion rheolaidd yn cefnogi diagnosis cynnar.

“Cynghorir unrhyw un sy’n teimlo y gallent fod mewn perygl o ddal HIV i gysylltu â’r clinig iechyd rhywiol.”

Dywedodd Karen Gronert, Pennaeth Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol Nyrsio: “Roedd yn wych bod aelodau’r tîm iechyd rhywiol wedi cael cyfle i ymuno â gêm y Llychlynwyr.

“Cawsant groeso mawr ac roeddent yn gallu darparu hybu iechyd a sgrinio iechyd rhywiol.”

Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon neu angen gwybodaeth bellach, yna cysylltwch â'r clinig iechyd rhywiol i gael cyngor ar 0300 555 0279.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.