Neidio i'r prif gynnwy

Mae meddygfeydd teulu yn cadw drysau ar agor ar gyfer Gŵyl y Banc Dydd Gwener

Sylwch: Roedd yr erthygl hon mewn perthynas â Gŵyl Banc Mai 2020. Bydd unrhyw ddolenni bellach wedi dyddio.

Mae ein meddygfeydd a fferyllfeydd wedi syniadu cynllun i ddarparu apwyntiadau brys ar gyfer Gŵyl Banc dydd Gwener (Mai 8fed).

Mae llawer o Feddygfeydd Meddygon yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn bwriadu rhoi oriau ychwanegol i mewn wrth i Ofal Sylfaenol barhau i godi i ofynion digynsail ymladd Coronafeirws.

Mae yr un peth â fferyllfeydd, mae rhai ychwanegol wedi gwirfoddoli i fod ar y rota arferol y tu allan i oriau arferol.

Mae'n bwysig nodi y gallai fod yn rhaid i rai sy'n bwriadu agor newid eu cynlluniau ar y funud olaf er mwyn delio a lefelau staffio oherwydd salwch.

I gael rhestr o’r holl feddygfeydd sy’n bwriadu bod yn agored a rota’r fferyllfa ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fe welwch y wybodaeth am feddygon teulu yma .

Gwybodaeth am fferyllfeydd yma .

Os yw'ch meddyg teulu ar gau a bod angen cymorth meddygol arnoch, yna cysylltwch â 111 fel arfer.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.