Neidio i'r prif gynnwy

Mae lluniau natur byw yn mynd â bywyd gwyllt i wardiau

Mae

YN Y LLUN: Alex Summers, Curadur, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; Dan Rouse, Cyfarwyddwr Bywyd Gwyllt Tadorna; Des Keighan o Fae Abertawe, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ystadau; Darren Griffiths, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad; Jessica Powell, Therapydd Galwedigaethol yn Ysbyty Cefn Coed; Ricky Morgan, Pennaeth Cynorthwyol Gweithrediadau yn Ysbyty Cefn Coed; Gareth Evans, Pennaeth Gwasanaethau Digidol Rhaglenni Seilwaith; Mark Humphreys, Swyddog Gwasanaethau Technegol Cynorthwyol; Martin Draisey, Vaughan Sounds; David Price, Rheolwr Prosiect Gweithrediadau TGCh; Alison Gallagher, Pennaeth Gweithrediadau yn Ysbyty Cefn Coed; Karren Roberts, Rheolwr Ward Tŷ Olwen; Tracey Rowe, Rheolwr Gwasanaeth Gofal Lliniarol Arbenigol; Howard Stevens, rheolwr y Gwasanaeth Technegol a'r gerddi botanegol' Stephen Pearce.

 

Mae ffilmiau byw o fyd natur a bywyd gwyllt yn cael eu ffrydio i ddau ysbyty ym Mae Abertawe i hybu iechyd meddwl a lles cleifion a staff.

Mae cysylltiadau fideo o ffrydiau byw o fewn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael eu trawsyrru i Ysbyty Cefn Coed a Hosbis Tŷ Olwen, ar dir Ysbyty Treforys.

Mae Mae draenogod, gwenyn ac adar ymhlith yr anifeiliaid sy'n cael eu codi gan 25 o gamerâu o amgylch y gerddi yn Llanarthne a'u sgrinio i gleifion dementia yn Ward Derwen Cefn Coed a chleifion sy'n derbyn gofal lliniarol diwedd oes yn Nhŷ Olwen.

Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol a'r bwrdd iechyd wedi partneru i greu prosiect 'Dod â Natur i Adeiladau'r Bwrdd Iechyd'.

YN Y LLUN: Staff Cefn Coed Kellie Mills, Deborah Morgan, Jessey Cannings a Tracey Clarke gyda’r claf Roderick Brown o flaen ffrwd byw’r ysbyty o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Nod y prosiect yw helpu i wella hwyliau a lleihau diflastod trwy ddod â byd natur yn uniongyrchol i fywydau cleifion y treulir eu dyddiau dan do yn bennaf.

Dywedodd Deborah Morgan, Rheolwr Ward Derwen: “Bydd hyn o fudd i staff a chleifion. Ers pandemig Covid, mae cleifion a staff wedi magu mwy o ddiddordeb mewn garddio a bywyd gwyllt. Rydym hefyd yn gwylio rhaglenni dogfen bywyd gwyllt ar y ward trwy wahanol sianeli teledu ac mae'r cleifion yn mwynhau hyn yn fawr.

“Nid tan i chi ddechrau siarad am fywyd gwyllt a garddio y byddwch chi'n sylweddoli faint o bobl sydd â diddordeb mawr mewn gwirionedd a naill ai'n gwybod ychydig neu eisiau dysgu mwy.

“Mae rhai cleifion yn ei chael hi’n anodd cysgu yn y nos, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd yn wrthdyniad lleddfol i gynorthwyo cwsg.

“Mae’n dechneg tynnu sylw gwych ac mae hefyd yn rhoi hwb i les meddwl pawb sy’n ei wylio.”

Mae Cynigiodd y prosiect weithrediad tri chamera i ddechrau, ond mae hynny wedi cynyddu i 25 gan ddiolch i gydweithrediad rhwng Bioffilig Cymru - prosiect a arweiniwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - a'r arbenigwyr natur nid-er-elw Tadorna Wildlife.

Gosodir camerâu mewn lleoliadau penodol o amgylch y gerddi lle gall cleifion wylio amrywiaeth o rywogaethau bob dydd.

YN Y LLUN: Gwirfoddolwr Chinch Gryniewicz gyda staff Tŷ Olwen Melissa Phillips, Diane Isaac ac Angharad Griffiths.

Dywedodd Karren Roberts, Rheolwr Ward Tŷ Olwen: “Mae ymchwil wedi profi dro ar ôl tro bod mynediad at natur yn codi hwyliau pobl, yn lleihau emosiynau negyddol ac yn helpu i leddfu’r math o ddiflastod sy’n gysylltiedig â chleifion yn cael eu hynysu dan do.

“Rydym wedi ein cyffroi’n arbennig gan fanteision ychwanegol y profiad trochi hwn o ddarparu mynediad i fyd natur i gleifion yn Nhŷ Olwen.

“Bydd cysylltiadau fideo â natur a bywyd gwyllt yn helpu staff i hybu lles pobl na allant gael mynediad rhwydd at fyd natur neu fannau gwyrdd – yn enwedig y rhai mewn gofal hirdymor.”

Mae Dywedodd Darren Griffiths, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad: “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn weithio mewn partneriaeth â sefydliadau rhagorol eraill i ddod â syniadau arloesol i’n hysbytai er budd cleifion a staff.

YN Y LLUN: Darren Griffiths, Des Keighan, Alex Summers, Stephen Pearce, Mark Humphreys a Howard Stevens y tu mewn i’r gerddi eiconig.

“Mae ymrwymiad a brwdfrydedd y timau sy’n rhan o’r prosiect, sy’n rhan o’n huchelgais gwyrdd ehangach, wedi bod yn rhagorol ac rydym yn gyffrous i fod yn datblygu cynlluniau pellach i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith gadarnhaol sylweddol y bartneriaeth hon o fewn y bwrdd iechyd.”

Dywedodd Alex Summers, Curadur Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae’r gallu i weld a chlywed byd natur yn dod â buddion enfawr i gleifion a staff.

“Un o’n hegwyddorion craidd eleni fu darparu ffilmiau byw o fyd natur i Ysbyty Cefn Coed a Thŷ Olwen, felly rydym wrth ein bodd ei fod bellach yn cael ei fwynhau gan bawb sy’n gwylio’r ffrydiau teledu byw.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.