Neidio i'r prif gynnwy

Mae llawfeddyg o Abertawe wedi troi ei law at beintio

Mr Latif

Bydd llawfeddyg o Fae Abertawe yn cyfnewid y theatr llawdriniaethau am y sgrin deledu yn ddiweddarach y mis hwn pan fydd yn ymddangos ar Channel 5's Watercolour Challenge.

Bydd Mr Shehzad Latif yn profi ei fod yr un mor fedrus wrth ddefnyddio brwsh paent ag ydyw yn sgalpel pan fydd yn cystadlu yn erbyn tri artist amatur arall sydd â'r dasg o ddal pedwar o dirweddau Cymreig gwahanol.

Bydd y rhaglen deledu boblogaidd yn ystod y dydd, a gyflwynir gan Fern Britton, yn gweld yr artistiaid yn cael pedair awr i beintio, mewn dyfrlliw, yr un olygfa neu dirwedd, yn aml gyda dehongliadau tra gwahanol, cyn symud i leoliad arall.

Mae Mr Latif hefyd yn fardd dawnus sydd wedi ennill clod gan y beirniaid yng Ngwobr rhyngwladol Hippocrates am Farddoniaeth a Meddygaeth am ei gerdd Singleton Hospital at Night a cherdd am spina bifida, a ysbrydolwyd gan ei fab sydd â'r cyflwr.

Meddai: “Rwy’n gwneud dyfrlliwiau a phasteli, yn bennaf tirluniau, a Rhosili yw fy hoff le i beintio.

“Mae'n un o'r mannau mwyaf prydferth. Y lle arall rydw i wedi dod o hyd iddo yw Aber Llwchwr, mae ganddi awyr hardd.”

Cliffs

Mae disgwyl i'r rhaglen gael ei darlledu ar 31 Ionawr. Eglurodd Mr Latif ei fod wedi cymryd rhan ar ôl derbyn e-bost gan ffrind yng Nghymdeithas Celfyddydau De Cymru yn gofyn am wirfoddolwyr oedd am wneud cais am y rhaglen.

Penderfynodd wneud cais ac anfonodd rai o'i luniau i'r gwneuthurwyr rhaglenni.

“Cysylltodd un o’r cynhyrchwyr drwy Zoom a dweud ei bod yn hoff iawn o fy ngwaith ond y beirniaid fyddai’n penderfynu.

“Chwe wythnos yn ddiweddarach cefais e-bost yn dweud, llongyfarchiadau, rydych chi wedi cael eich dewis fel un o'r pedwar cystadleuydd.

“Cynhaliwyd y ddwy sesiwn gyntaf yng Nghrucywel, ar Stad Glanusk. Roedd yn lleoliad hardd yn edrych ar draws i gyfeiriad Pen y Fan. Yna symudon ni ymlaen i Sain Dunwyd, ger Llanilltud Fawr, cyn gorffen yn y parc treftadaeth yn y Rhondda.

“Fel sy’n arferol yng Nghymru, fe gawson ni gamut cyfan y pedwar tymor o fewn dwy awr.

“Roedd y diwrnod cyntaf yn braf a chynnes, yn heulwen hardd, ac yna awr i mewn i’r gystadleuaeth gwelais y cymylau’n agosáu ac yna cawsom y gwynt, y cenllysg a’r glaw.

“Roedd yn hwyl rhedeg o un lle i’r llall, yn ceisio achub ein gwaith.”

Rhossili

Dywedodd Mr Latif, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Treforys ac sy'n arbenigo mewn ail-greu waliau'r abdomen, ei fod wedi mwynhau'r profiad yn fawr.

“Fe ddysgais i lawer. O’r rhedwyr i’r dynion camera, ac o Fern i’r beirniaid, roedd y tîm cynhyrchu cyfan yn rhyfeddol.

“Roedd yn fformat diddorol, dywedwyd wrthym am beintio a daeth y beirniaid o gwmpas y diwedd a dewis enillydd y rhaglen honno. Rwy’n credu y gofynnir i’r gwylwyr ddewis enillydd cyffredinol y gyfres.”

Ond hyd yn oed os yw'n ennill y gystadleuaeth does dim peryg iddo roi'r gorau i'w swydd bob dydd.

“Rwy’n caru fy swydd yn ormodol i ymgymryd â pheintio amser llawn.”

Mae Mr Latif, aelod o Gymdeithas Celfyddydau Abertawe sydd wedi arddangos ei waith yn Ysbyty Singleton o'r blaen, yn gwerthu peth o'i waith i godi arian at elusen sy'n agos at ei galon.

Meddai: “Fel aelod o Gymdeithas Metabolaidd Llawfeddygon Gordewdra Prydain, yr wyf hefyd yn fardd preswyl iddi, rwyf bob amser yn dod mewn gyda fy ngherddi a phaentiadau. Mae'r aelodau'n edrych ymlaen yn fawr.

“Ac mae rhai o fy mhaentiadau yn mynd i gael eu gwerthu ar wefan Cymdeithas Obesity UK er mwyn codi arian i’r elusen.”

Castle

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.