Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwirfoddolwyr â bysedd gwyrdd yn dechrau trawsnewid tiroedd ysbytai yn erddi iach

Mae gwirfoddolwyr yn torri i lawr gwely blodau wedi’i godi ar dir Ysbyty Gorseinon.

Uchod: Un o'r tasgau cyntaf i wirfoddolwyr oedd mynd â'r polion pwdr o amgylch y gwely blodau hwn i lawr.

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid dwy ardd ysbyty Bae Abertawe yn lleoedd hyfryd i gleifion, ymwelwyr a staff eu mwynhau.

Mae cwrt yn Ysbyty Treforys, a thiroedd Ysbyty Gorseinon yn cael eu hailgynllunio'n llwyr diolch i arian gan Brosiectau Pobl y Loteri Genedlaethol.

Yr ardd yn Ysbyty Gorseinon fel yr oedd ym mis Chwefror 2020. Mae

I'r dde: Yr ardd yn Ysbyty Gorseinon ym mis Ionawr 2020, cyn i'r gwaith ddechrau.

Dyfarnwyd mwy na £50,000 i'r fenter Gerddi Ysbytai Iach, dan arweiniad Keep Wales Tidy, i ddiweddaru'r mannau awyr agored eang.

Caiff yr arian ei rannu ar draws y ddau safle, yn ogystal ag Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwyn-y-pïa, i greu'r gerddi newydd.

Nawr, mae'r gwirfoddolwyr cyntaf wedi bod yn cael eu dwylo'n fudr yng Ngorseinon, wrth iddyn nhw weithio i fynd â'r ardd bresennol yn ôl i gynfas wag cyn i'r plannu ddechrau.

Roedd Mark Humphreys, swyddog gwasanaeth technegol cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - sy'n cydlynu'r prosiect gardd yn fewnol - a Brian Jones, rheolwr prosiect yn Keep Wales Tidy, wrth law i reoli'r gwirfoddolwyr ar eu diwrnod cyntaf yng Ngorseinon.

Meddai Mark: “Cawsom nifer dda yn dod atom ddydd Sadwrn ar gyfer dechrau'r prosiect.

“Dechreuon ni dynnu rhai o'r hen welyau blodau i lawr a thocio'r planhigion a'r coed presennol yn ôl.

“Rydyn ni i gyd yn byw’n lleol i Ysbyty Gorseinon ac mae’n braf gallu gwirfoddoli ein gwasanaethau i helpu i wella’r gerddi, er lles cleifion, staff ac ymwelwyr.”

Nid tasg hawdd oedd y gweithiau cyntaf ond rhoddodd Asda Gorseinon luniaeth i gadw'r tîm i fynd trwy'r dydd.

Bydd gwaith pellach yng Ngorseinon yn gweld y rhodfeydd yn cael eu clirio a man eistedd dan do newydd yn cael ei adeiladu tua gwaelod yr ardd.

Y tu allan i du blaen yr ysbyty, bydd meinciau coffa a roddwyd gan Gyngor Tref Gorseinon yn cael eu gosod a'u hamgylchynu gan amrywiaeth o flodau o flaen y lawnt bresennol.

Yn y cyfamser bydd y cynlluniau ar gyfer Ysbyty Treforys yn rhoi mynediad i ofod awyr agoredtawel a phreifat i gleifion ar Ward Powys, sy'n rhan o Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru.

Cwrt yr ardd ger Ward Powys Ysbyty Treforys. Mae cerflun metel o fenyw yn sefyll ar ardal graean wen ger gwely blodau pren wedi

I'r dde: Y cwrt mewnol ger Ward Powys yn Ysbyty Treforys.

Ar hyn o bryd, nid yw'r cwrt mewnol yn addas i'w ddefnyddio, ond bydd y gweddnewidiad yn golygu y bydd hyd yn oed cleifion mewn gwelyau yn gallu mwynhau peth amser y tu allan.

Dywedodd Sophie Evans, rheolwr ward Powys: “Allwn ni ddim aros.

“Gan ei bod yn ward adsefydlu, bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i bob un claf a'i deuluoedd, i allu mynd allan mewn amgylchedd preifat, a chael rhywfaint o awyr iach.

“Bydd yn hwb mawr i’w hadsefydlu ac yn helpu eu hanghenion seicolegol hefyd.”

Os hoffech wirfoddoli i weithio ar y naill gardd neu'r llall, cysylltwch â Brian Jones gan e-bostio brian.jones@keepwalestidy.cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.