Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau gofal cymunedol dan bwysau oherwydd galw mawr a phrinder staff

Logos Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Abertawe

Datganiad ar y cyd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Abertawe.

Gallai prinder staff ac adnoddau cyfyngedig mewn gofal cartref, nyrsio a gwasanaethau cymunedol arwain at flaenoriaethu gwasanaethau dros dro i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf diamddiffyn.

Mae darparwyr iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol yn rhybuddio preswylwyr i ddisgwyl newidiadau yn y ffordd y caiff cefnogaeth yn y gymuned ei chyflwyno. 

Mae gwasanaethau fel nyrsio ardal, cartrefi gofal a gofal cartref yn profi prinder staff difrifol ar hyn o bryd, ac er bod gwasanaethau'n dod at ei gilydd i wneud pob ymdrech i leihau'r effaith, y realiti yw gall fod angen i deuluoedd weithio'n agos gyda staff i'w helpu i ddarparu gofal i'w hanwyliaid.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Abertawe eisoes wedi ailddyrannu adnoddau er mwyn lleihau bylchau staffio ar rai sifftiau.  

Mae’r timau’n gweithio’n agos i flaenoriaethu gwasanaethau i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf diamddiffyn. Dros y dyddiau nesaf, efallai y bydd unigolion sy'n derbyn gwasanaethau'n cael galwad ffôn yn gofyn iddynt ystyried rhai o'r canlynol i helpu:

  • Cyfuno'u gofynion cefnogaeth presennol yn llai o ymweliadau
  • Newid amser a hyd ymweliadau
  • Gofyn i aelodau'r teulu am gefnogaeth lle bo modd
  • Gofyn i aelodau'r teulu helpu i baratoi prydau bwyd a sicrhau eu bod yn cymryd eu meddyginiaeth yn iawn
  • Addysgu unigolion neu aelodau'r teulu i ymgymryd â thasgau nyrsio syml, fel newid rhwymiad.

Meddai Tanya Spriggs, Cyfarwyddwr Grŵp Nyrsio ar gyfer Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gwasanaethau Therapi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe,

"Rydym wedi archwilio pob opsiwn sydd ar gael i atal ein gwasanaethau rhag cael eu gorlethu. Y cam nesaf yw ystyried sut y gellir addasu ein gwasanaethau dros dro i sicrhau bod y rheini â'r gofynion gofal a chefnogaeth fwyaf hanfodol yn cael eu blaenoriaethu.

"Caiff atgyfeiriadau i'n timau nyrsio ardal a chlinigol acíwt eu hasesu'n unigol i benderfynu ar y math o ymyriad sydd ei angen ar berson. Gydag achosion yn ehangu'n barhaol, efallai y byddwn yn gofyn i deuluoedd a gofalwyr weithio mewn partneriaeth â ni i gyflwyno'r ymyriadau mewn ffyrdd gwahanol. Bydd hyn yn edrych ac yn teimlo'n wahanol i'r gwasanaeth cyn y pandemig, ond bydd hefyd mor ddiogel a chadarn â phosib." 

Mae lefelau staffio mewn gwasanaethau gofal cartref hefyd mewn argyfwng, gyda nifer mawr o weithwyr gofal yn chwilio am gyflogaeth mewn sectorau eraill.

Meddai David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Abertawe,

"Rydym yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i atebion creadigol i helpu i gynnal gwasanaethau, ond mae'r sefyllfa'n bryder mawr ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd bob dydd.

"Mae gwasanaethau cymunedol yn llinell fywyd ar gyfer pobl ddiamddiffyn sy'n dibynnu ar y gefnogaeth a ddarperir gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cydweithio i ail-lunio'r ffordd rydym yn gwneud pethau er mwyn amddiffyn a rhoi hwb i'r help y gallwn ei ddarparu i'r rheini sydd ei angen mwyaf.

Y prif nod yw atal gwasanaethau rhag cael eu gorlethu drwy adeiladu rhwydwaith cefnogaeth gadarn gan gynnwys teuluoedd, gofalwyr a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol statudol.  

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.