Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau Bae Abertawe yn cyfuno i helpu i chwalu stigma ynghylch iechyd meddwl

Delwedd yn dangos pobl yn sefyll

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Abertawe heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref) gyda'r nod o dorri'r stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y digwyddiad hyrwyddo yn Amgueddfa’r Glannau i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Delwedd yn dangos pobl yn sefyll Y syniad oedd annog y cyhoedd i siarad am iechyd meddwl a dangos iddynt sut a ble i geisio cymorth os ydynt yn cael trafferth.

Gwahoddwyd nifer o sefydliadau trydydd sector hefyd i gynnal stondinau a hyrwyddo’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

YN Y LLUN: Ricky Morgan o'r bwrdd iechyd a Connie Bush drefnodd y digwyddiad.

Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal mewn person ers 2019, gyda mwy na 40 o stondinwyr yn bresennol, gan gynnwys ystod eang o wasanaethau bwrdd iechyd.

Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau drwy gydol y dydd ar bynciau gan gynnwys atal hunanladdiad a phrofiad y claf.

Er mwyn cefnogi staff y bwrdd iechyd ymhellach, mae digwyddiadau cinio a dysgu ar-lein wedi’u sefydlu i’w helpu i ymdrin â heriau dyddiol eu rolau hollbwysig, ynghyd â helpu cydweithwyr ac eraill a allai fod yn ei chael hi’n anodd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Connie Bush, rheolwr hyfforddeion graddedig y bwrdd iechyd, dysgu a datblygu, ar y cyd gyda Ricky Morgan, Pennaeth Gweithrediadau Cynorthwyol ar gyfer y Grŵp Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.

Dywedodd Connie: “Roedd hwn yn ddychweliad i’w groesawu i ddigwyddiad mewn person gan nad oedd yn bosibl am yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd y pandemig.

“Yn hytrach fe’i cynhaliwyd ar Microsoft Teams ar gyfer staff y bwrdd iechyd, ond roedd y digwyddiad hwn yn caniatáu i ni gynnwys y cyhoedd.

“Roeddem wrth ein bodd gyda faint o wasanaethau bwrdd iechyd a sefydliadau trydydd sector a gymerodd ran gan fod iechyd meddwl mor bwysig.

“Y thema eleni yw Mae Iechyd Meddwl yn Hawl Dynol Cyffredinol, ac roedd y thema honno’n amlwg drwy gydol y digwyddiad."

“Mae’r stigma o drafod iechyd meddwl yn cael ei dorri, ac rydyn ni eisiau i bobl deimlo’n fwy cyfforddus yn siarad amdano.ae hynny’n bendant wedi bod yn wir heddiw diolch i wahanol sefydliadau a gwasanaethau a oedd yn bresennol.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.