Neidio i'r prif gynnwy

Mae Covid wrth ei fodd pan fyddwch chi'n hunanfodlon

Neges gan ein Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Keith Reid:

"Pan fydd Covid yn eich heintio, nid ydych yn ymwybodol iawn am yr ychydig ddyddiau cyntaf - ond y 24-48 awr cyn i'r symptomau ddangos yw pan fyddwch ar eich mwyaf heintus.

Byddwch wedi ei basio ymlaen cyn i chi hyd yn oed sylweddoli eich bod yn sâl.

Mae'r feirws fel lleidr sy'n dod i mewn i'ch tŷ ac yn dwyn eich iechyd wrth i chi gysgu.

Yn y cyfamser, pan fyddwch chi'n siarad, cusanu, cofleidio, tisian neu anadlu, mae'r feirws yn teithio ar eich anadl ac yn heintio'r bobl rydych agosaf atynt  - eich teulu, eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich cymdogion.

Dyma'r bobl rydych chi'n reddfol yn teimlo'n ddiogel o'u cwmpas a'r bobl sy'n reddfol yn teimlo'n ddiogel o'ch cwmpas.

Ond y cynefindra hamddenol hwnnw y mae'r feirws yn ei garu, a dyna pam mae'r rhan fwyaf o bobl yn dal Covid oddi wrth bobl maen nhw'n eu hadnabod.

Ni fyddwch yn gwybod eich bod yn trosglwyddo Covid ac ni fyddant yn gwybod eu bod yn ei gael. Erbyn i chi ddechrau teimlo'n sâl (neu hyd yn oed os ydych chi'n parhau i fod yn asymptomatig) mae'r difrod eisoes wedi cael ei wneud.

Mae cynnal partïon tai, neu ddim ond picio i mewn i dai pobl eraill nad ydyn nhw'n rhan o'ch swigen, a dweud y gwir, yn ddewisiadau peryglus ar hyn o bryd. Gall y bygythiad anweledig hwn basio rhyngom i gyd mor hawdd.

Felly dyna pam ei bod yn parhau i fod yn hynod bwysig gwneud dewis ymwybodol i gadw pellter diogel oddi wrth eraill, golchi'ch dwylo, ac osgoi cymysgu â'r rhai nad ydyn nhw yn eich swigen. "

Sylwir, os gwelwch yn dda, mae’r ddelwedd hon ar gael yn Saesneg yn unig.

Delwedd gyda chyngor yn Saesneg ar sut i gadw

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.