Neidio i'r prif gynnwy

Mae claf ddiolchgar yn ein helpu i oedi i gofio'r rhai fu farw

Pan seiniodd Gayle Lewis y Post Olaf y tu allan i Ysbyty Treforys ar Ddiwrnod y Cadoediad, roedd hi nid yn unig yn anrhydeddu ein meirwon rhyfel ond yn rhoi ddiolch am y staff sydd wedi gweithio mor ddiflino trwy gydol y pandemig.

Mae’r menyw 49 oed o Bontarddulais wedi gweld y pwysedd presennol ar staff ysbytai yn uniongyrchol, ar ôl cael llawdriniaeth fawr yn ôl yn yr haf, ac eisiau talu teyrnged i’w hymroddiad a’u hymrwymiad tuag at helpu eraill.

Fe wnaeth Gayle, sydd â sglerosis ymledol, ddadleoli ei ffêr ym mis Ebrill 2019, ychydig ar ôl dechrau'r pandemig, ond ni cheisiodd help ar unwaith.

Gayle Lewis 3 Meddai: “Oherwydd y pandemig, yn ffôl, es i ddim i’r ysbyty, na gweld meddyg, am saith diwrnod. Wrth edrych yn ôl dylwn fod wedi galw 111 o leiaf i ofyn am gyngor.

“Pan ddechreuodd waethygu es i yn y pen draw i’r adran achosion brys a dywedwyd wrthyf ei fod wedi’i heintio.”

Yn anffodus, er gwaethaf llawdriniaeth i unioni’r broblem, ac adsefydlu wedi hynny, dirywiodd coes Gayle.

Meddai: “Nid oedd erioed yn iawn ac roedd yn gwaethygu. Es yn ôl i'r uned frys ddiwedd mis Awst a gwelais ymgynghorydd. Dywedodd y gallwn naill ai ddysgu byw gyda fy nghoes, ond y byddai problemau parhaus, neu gallwn gael fy nghoes i ffwrdd hanner ffordd o dan y pen-glin. Fy mhenderfyniad i oedd hynny.

“Nid oedd yn unrhyw benderfyniad hawdd i’w wneud, ond roeddwn i wedi bod yn byw gyda fy nghoes ac nid oedd yn iawn, ac felly mi wnes i ddewis gael y goes i ffwrdd. Gwnes y penderfyniad iawn.

“Treuliais saith wythnos a hanner yn yr ysbyty ac fe wnaethant edrych ar fy ôl yn wych. Roedd yr holl staff yn hollol wych. Roedd yn amser hir i fod yno a gwelais gleifion yn mynd a dod ond roedd y staff yn wych gyda phawb. Fe allwn i ddweud eu bod nhw dan lawer o bwysedd gyda'r pandemig - roedd yn wallgof iddyn nhw - ond fe wnaethon nhw ymdopi â'r cyfan â gwen ar eu hwynebau.

“Nid wyf yn deall pobl sy’n dweud nad oedd ein hysbytai ar agor, gwelsant fod angen help arnaf ac roeddwn yn syth i mewn ac yn cael fy ngweld.”

Cynigiodd Gayle, sydd wedi bod yn aelod o Fand Pres Penclawdd, y syniad am ei diolch unigryw ar ôl iddi seinio’r Post Olaf ar stepen ei ddrws, yn ystod y cyfnod gloi, y llynedd.

Meddai: “Mae Deborah Perry, sef y therapydd galwedigaethol sy’n helpu gyda fy adsefydlu, yn fy annog i aros yn optimistaidd ac felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i ddiolch i staff yr ysbyty.

“Rwyf bob amser wedi mwynhau cerddoriaeth, enillais yr eisteddfod genedlaethol pan oeddwn yn soprano dan 19 oed, a chwaraeais y post olaf ar stepen fy nrws, ar gyfer fy nghymdogion, ddydd Sul y Cofio diwethaf. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n braf ei chwarae eto eleni ar ran yr ysbyty.

“Mae dau reswm I mi chwarae, un personol i mi gofio fy hen ewythr, Gordon Richards, a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd, ynghyd â phawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd, pob un ohonynt.

“A dyma hefyd fy ffordd i ddiolch i’r staff rhyfeddol sydd nid yn unig wedi fy helpu ond wedi gweithio mor ddiflino trwy gydol y pandemig.”

Dywedodd therapydd galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Deborah Perry: "Dyma'r tro cyntaf i Gayle fentro y tu allan i'w thŷ ers ei llawdriniaeth ac rydym yn hynod ddiolchgar ei bod wedi dewis dod yma heddiw a'n helpu i nodi Diwrnod y Cadoediad.

"Mae'n gam dewr iawn ar ei rhan ac rwyf mor falch ohoni."

BIPBA yn nodi Dydd y Cadoediad

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.