Neidio i'r prif gynnwy

Mae atal dros dro o gleifion a dderbynnir i Dŷ Olwen

Delwedd o Dy Olwen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gorfod gwneud llawer o newidiadau i'w wasanaethau fel y gall barhau i ddarparu gofal angenrheidiol i'w gleifion yn wyneb y pandemig COVID-19.

Lle mae angen gofal lliniarol neu ddiwedd oes ar gleifion rydym wedi bod yn darparu hyn yn gynyddol yn eu cartrefi neu eu lleoliadau cymunedol. O ganlyniad dros yr wythnosau diwethaf, mae ein tîm Gofal Lliniarol Arbenigol wedi gweld llai o alw am welyau yn Nhŷ Olwen. Nid yw llawer o gleifion wedi bod eisiau cael eu derbyn i Dŷ Olwen ar gyfer eu Gofal Lliniarol yn ystod y pandemig, yn rhannol oherwydd eu pryderon ynghylch COVID-19 ac yn rhannol oherwydd cyfyngiadau ar ymweld â theulu a ffrindiau.

Rydym hefyd wedi bod yn profi salwch staff sylweddol sy'n effeithio ar ein gallu i redeg yr uned cleifion mewnol a'r gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol ehangach.

O ganlyniad, rydym wedi penderfynu, o 24.04.20, mewn trafodaeth â'n Cyngor Iechyd Cymunedol nad oes gennym unrhyw ddewis ond atal dros dro dderbyn cleifion i Dŷ Olwen. Ein nod, hyd nes y gellir ailsefydlu'r gwasanaeth, yw dod â chymaint o ofal Tŷ Olwen â phosibl i'r claf, lle bynnag y bônt, gartref neu mewn man arall yn ein hysbytai.

Rydym am sicrhau cleifion, pe bai angen eu derbyn i'r ysbyty oherwydd na ellir darparu eu gofal gartref, mae trefniadau priodol ar waith iddynt gael eu derbyn i Ysbyty Singleton a chael gofal yno gan y gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.