Rydym wrth ein bodd yn eich gwahodd i ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026 am 3:45yp.
Cynhelir digwyddiad eleni yn bersonol yn Narlithfa 2, Canolfan Addysg Treforys, Ysbyty Treforys, Heol Maes Eglwys, Treforys, Cwmrhydyceirw, Abertawe, SA6 6NL ac yn rhithwir drwy MS Teams.
Bydd camerâu a meicroffonau'n cael eu dadactifadu yn ystod y cyfarfod i osgoi ymyrraeth ac yna'n cael eu galluogi yn ystod yr adran Holi ac Ateb. Rydym hefyd yn gwahodd cwestiynau ysgrifenedig drwy'r swyddogaeth Holi ac Ateb, os byddai'n well gennych ymgysylltu heb droi sain / fideo ymlaen.
Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a'i uwchlwytho i'r wefan yn dilyn y cyfarfod.
Gallwch hefyd godi cwestiwn cyn y cyfarfod drwy e-bostio BIPBA.LlywodraethuCorfforaethol@wales.nhs.uk cyn dydd Gwener 17eg Gorffennaf. Mae hyn yn ddefnyddiol i sicrhau y gallwn ateb eich cwestiwn yn llawn yn y cyfarfod.
Os hoffech ymuno â ni yn bersonol, a allwch gadarnhau eich presenoldeb drwy e-bostio BIPBA.LlywodraethuCorfforaethol@wales.nhs.uk.
Dyma'r rhaglen ar gyfer y sesiwn:
Bydd y cyfarfod yn dod i ben erbyn 5yp.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.