Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu Diwydiannol - Streic Meddygon Iau 15fed i 18fed Ionawr 2024

Mae Meddygon Iau yng Nghymru yn gweithredu'n ddiwydiannol dros gyfnod o 72 awr o 7yb Ddydd Llun, 15fed Ionawr tan 7yb Ddydd Iau, 18fed Ionawr 2024. Mae meddygon iau yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi gwasanaethau ar draws ein safleoedd, felly mae'n anochel y bydd gweithredu diwydiannol yn cael effaith ar ein gwasanaethau.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd gwasanaethau brys a gofal brys yn dal i fod ar gael, ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hyn.

Fodd bynnag, bydd y streic yn cael effaith fawr ar lawer o'n gwasanaethau arfaethedig, gweithrediadau wedi'u hamserlennu ac apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw ar y dyddiau hynny.

Mae’r rhan fwyaf o lawdriniaethau arferol wedi’u hamserlennu ac apwyntiadau cleifion allanol dan arweiniad meddyg wedi’u canslo, ond mae clinigau sy’n cael eu rhedeg gan nyrsys neu fathau eraill o glinigwyr, fel therapyddion, yn dal i fynd rhagddynt.

Gwnaethpwyd pob ymdrech i gysylltu â chleifion y mae eu hapwyntiadau wedi’u canslo trwy lythyr, galwad ffôn a/neu neges destun. Os yw eich apwyntiad wedi'i ganslo, byddwn yn cysylltu â chi'n fuan gyda dyddiad apwyntiad newydd felly nid oes angen cysylltu â ni.

Os nad ydych wedi derbyn llythyr canslo, galwad ffôn neu neges destun, yna dewch yn unol â'ch llythyr apwyntiad. (Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd clinigau’n wynebu peth aflonyddwch, gan gynnwys oedi neu hyd yn oed rhai canslo munud olaf.)

Os ydych yn ansicr, neu os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch eich apwyntiad, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad. Rydym yn disgwyl mwy o alwadau nag arfer felly byddwch yn amyneddgar a byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag y gallwn.

Sut y gall y cyhoedd helpu yn ystod y cyfnod hwn

Os oes angen gofal brys arnoch yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein gwasanaethau brys a gofal brys ar gael.

Ond os nad yw eich salwch neu anaf yn ddifrifol, ystyriwch ffyrdd eraill o gael yr help sydd ei angen arnoch:

Ar gyfer mân anafiadau, rhowch gynnig i'r Uned Mân Anafiadau (UMA) yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr UMA a'r ystod o anafiadau y gall eu trin. Ond sylwch NA ALL yr UMA drin anafiadau neu salwch difrifol. Peidiwch â mynd i’r Uned Mân Anafiadau os oes gennych chi boen yn y frest, amheuaeth o strôc ac ati.

Gallwch hefyd fynd yma i roi cynnig ar wiriwr symptomau GIG Cymru 111 ar-lein am gyngor . Gallwch hefyd ffonio GIG Cymru 111 am gyngor, ond gall llinellau fod yn brysur, felly os yn bosibl ewch i'r dudalen we uchod fel opsiwn cyntaf cyn ffonio.

Gall eich fferyllfa leol hefyd gynnig triniaethau dros y cownter AM DDIM ar gyfer ystod eang o anhwylderau cyffredin, ar ôl i chi gofrestru gyda nhw. Gallant hefyd gynnig nifer cyfyngedig o feddyginiaethau presgripsiwn heb fod angen i chi fynd at eich meddyg teulu. Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich fferyllydd helpu.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch, gallwch ffonio 111 a dewis Opsiwn 2 i gysylltu â thîm o ymarferwyr iechyd meddwl.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.