Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu diwydiannol – gwybodaeth i gleifion

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi gweithredu streic genedlaethol, a fydd yn effeithio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar ddydd Mawrth 6 Mehefin a dydd Mercher 7 Mehefin.

Rhagwelir ni fydd gofal argyfwng a brys yn cael ei effeithio yn uniongyrchol ac felly os ydych angen gofal brys dylai’r gwasanaethau hyn fod ar gael fel arfer.

Ni fydd gwasanaethau mamolaeth yn cael ei effeithio ac yn rhedeg fel yr arfer.

Fodd bynnag, bydd y gweithredu diwydiannol yn cael effaith mawr ar wasanaethau wedi’u cynllunio ac apwyntiadau wedi’u trefnu o flaen llaw ar y ddau ddiwrnod.

Bydd mwyafrif o lawdriniaethau arferol ac apwyntiadau cleifion allanol cael eu gohirio, gydag eithriad o’r rhai a restrir isod.

Os nad oes gennych apwyntiad ac nid yw’r gwasanaeth wedi’i rhestru isod, peidiwch â throi i fyny a ni fyddwch yn cael eich gweld.

Yr unig eithriad i hyn yw mewn rhai achosion lle byddwn yn ceisio cysylltu â chi yn uniongyrchol os yw eich apwyntiad yn dal mynd ymlaen.

Dyma restr o wasanaethau wedi’u cynllunio a fydd ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Merched, gan nad yw nhw wedi’u heffeithio gan y streic. Os oes gennych chi apwyntiad mewn un o’r gwasanaethau hyn, mynychwch fel y trefnwyd:

  • Uned canser dydd ar gyfer triniaethau cemotherapi, radiotherapi, hematoleg, oncoleg
  • Radioleg – pelydrau-X, sganiau MRI, sganiau CT a sganiau uwchsain
  • Fflebotomi – profion gwaed
  • Ffisioleg gardiaidd – sganiau calon, ECG
  • Apwyntiadau rhithiwr cleifion allanol – y rhai a wneir dros y ffôn neu drwy alwad fideo
  • Awdioleg, therapi iaith a lleferydd; podiatreg ac orthoteg; ffisiotherapi, therapy galwedigaethol a deieteg
  • Y gwasanaeth asesiad cyhyrysgerbydol MCAS/ CMATS (cyhyr ac esgyrn)

Sylwch er bod y clinigau hyn wedi’u cynllunio i weithredu fel yr arfer, mae’n bosib y byddan nhw’n wynebu rhywfaint o darfu, gan gynnwys oedi neu hyd yn oed apwyntiadau yn cael eu canslo ar y funud olaf.

Rydym dal yn drafod manylion gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol am ba wasanaethau eraill sydd efallai yn gallu rhedeg, a byddwn yn diweddaru wrth i fwy o wybodaeth fod ar gael.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.